i'r Eurgrawn; ac ystyrid ef yn bregethwr rhagorol. Bu farw yn 1818. "Machludodd ei haul tra yr ydoedd yn ddydd."
ROBERT ROBERTS, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Llansantffraid, Corwen, a Chynwyd. Ganwyd ef yn Caregafon, plwyf Corwen, yn 1818; a bu farw yn Plasynhonwm, yn yr un plwyf, yn 1868. Llafuriodd yn ddyfal a llwyddianus yn y weinidogaeth, ac ysgrifenodd lawer i'r Greal, Seren Gomer, a chyfnodolion eraill. Rhagorai yn ei fedrusrwydd i drafod hanesiaeth eglwysig, Yr oedd hefyd yn wr cadarn mewn beirniadaeth Feiblaidd, ac uwchlaw'r cyfan yn Gristion gloew. (Gwel ei Gofiant gan H. C. Williams).
EDWARD SAMUEL—Brodor o Arfon, ond hawlia Edeymion
ef fel un o'i henwogion, ar gyfrif iddo dreulio ei oes gyhoeddus
braidd oll yma, Sefydlodd fel offeiriad yn Bettws Gwerfil Goch
yn 1702, a symudodd i Langar yn 1721, lle yr arosodd hyd
ddydd ei farwolaeth, yn 1748, ac efe yn 75 mlwydd oed.
Claddwyd ef wrth ben dwyreiniol Eglwys Llangar, a thrwy ofal
doeth a phriodol mae careg ei fedd i'w gweled o hyd, a'r ysgrifen
arni yn hollol ddealladwy. Yr oedd E. Samuel yn fardd o gryn
fri, ac yn gyfansoddwr gwych mewn rhyddiaeth; ond fel cyfieithydd ystwyth a da y gwasanaethodd ei genedlaeth fwyaf. Noda
G. Lleyn y llyfrau canlynol wedi iddo eu dwyn allan:—1, Bucheddau'r Apostolion. 2. Gwirionedd y Grefydd Gristionogol,
cyfieithiad o waith Hugo Grotius. 3. Holl ddyledswydd dyn,
cyf. 4. Prif ddyledswyddau Cristion, cyf. 5. Athrawiaeth yr
Eglwys, cyf. 6. Pregeth yn nghylch gofalon bydol—pregeth
angladdol oedd hon, ond ni cheir son am y gwrthddrych o'i mewn
ond yn unig yn y rhagymadrodd). 7. Pregeth ar Adgyfodiad
Crist.
ROBERT WILLIAMS, A.M., Periglor Llangar, a anwyd yn
1748, ac a fu farw yn 1825. Claddwyd yntau wrth hen Eglwys
Llangar, yn agos i fedd ei gynoeswr a'i flaenorydd E. Samuel.
Yr oedd yn fardd a llenor gwych, ac yn wr tra dysgedig. Sonit
am dano gyda pharch gan Dr. Owen Thomas yn Nghofiant John
Jones, Talysarn. Ceir yn y Gwyliedydd am 1826 awdlau marwnadol am dano gan Peter Llwyd o Gwnodl, a Gwilym Ysgeifiog,