Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dee, a dwy eraill a elwir Dye, ac un arall Duv neu Duff, oddiwrth eu lliw; a chadarnheir hyn oddiwrth ddwy afon yn swydd Ayr a elwir Dow-uisk, unig ystyr yr hyn yw Dwfr du, heb unrhyw gyfeiriad at ddwyfoldeb. Yr enw Rhufeinig ar y ddwy Dee oedd Deva, ac oddiwrth yr enw hwn y mae yn ddiau genyf y cafwyd dwy yn Gymraeg, gan fod wy yn air cyfystyr â'r Lladin e, fel y mae yn amlwg oddiwrth y geiriau Cymraeg rhwyd, cwyr, eglwys, &c., oddiwrth rete, cera, ecclesia. Mae y syniad o ddwyfoldeb yn nglŷn â'r Ddyfrdwy yn perthyn i gyfnod cymhariaethol ddiweddar, megys i amser Spencer a Drayton. Yr awdwr boreuaf a ddyfynir yw Giraldus Cambrensis, a'r cwbl a ddywed ef yw-Trigolion y parthau hyn a haerant fod dyfroedd yr afon hon, y Douerdwy, yn newid eu rhydau bob mis; ac fel y tueddo yn fwy tua Lloegr a Chymru, hwy a allant ddarogan gyda sicrwydd pa genedl fydd yn llwyddianus neu yn anffodus yn ystod y flwyddyn.'-R. WILLIAMS, Rhydycroesau.

"Wele yn canlyn atebiad y Parch. Robert Jones, a gwelir mor ddeheuig y mae yn cyfarfod â'r holl wrthddadleuon:-'Mae Canon Williams o Rydycroesau yn gwadu cywirdeb fy nharddiad o'r gair 'Dyfrdwy.' Myn ef mai ystyr yr olddod dwy yw 'du' ac nid 'dwyfol' neu 'gysegredig,' megys yr hacrais i yn y Cymrodor; a dymuna ef gael clod am y darganfyddiad. Haera yn mhellach mai oddiwrth Dr. Owen Pughe y cefais i fy ngwybodaeth ar y mater. Mae efe yn gyfeiliorus ar bob pen. Wrth drafod ei haeriadau, mi a'u cymeraf o'u gwrthol. Nid wyf hyd yr awr hon wedi ymgynghori â'r geiriaduron a nodir ganddo. Nid efe, ychwaith, yw darganfyddwr y ddamcaniaeth mai ffurf arall ar du yw dwy. Os try efe i Pennant's Tours in Wales: Llundain, 1810, cyf. ii., tudal. 215, efe genfydd fod Pennant, ganrif yn ol, yn dadleu yn erbyn y tarddiad neillduol hwnw: diau ei fod wrth wneud hyny yn dadleu yn erbyn y tarddiad a dderbynid yn gyffredin yn ei oes ef. Os trown i'r mater mewn dadl, y mae geirdarddiad fy ngwrthwynebydd yr un mor anghywir. Er mwyn gwrthbrofi golygydd Y Cymrodor, y mae efe yn troi i'w eiriaduron, Gresyn braidd ei fod wedi aflonyddu ar yr hyn ag y mae ysgolheigion yn ddiweddar wedi ei ganiatau i'r gweddillion hyn o'r amser a fu. Oddieithr, efallai, gasgliadau cyfyngedig Dafis a Llwyd, ni ddaeth allan o'r wasg erioed lyfrau