Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag y gellid dibynu llai arnynt. Nid wyf yn dweyd eu bod yn ddiwerth. Buont, ac y maent eto, yn ateb rhyw bwrpas. Ond pan gyfyd unrhyw fater gwir bwysig, nis gellir dibynu ar eu hawdurdod. Er pan ymddangosasant hwy yn y byd, mae y wyddor o ieitheg gymhariaethol wedi dyfod i fodolaeth, a hyny gydag egni sydd yn diffodd y goleuadau llai hyny ger ei bron, er mai ychydig iawn o oleuni sydd yn angenrheidiol i egluro y pwnc dan sylw. Yn awr dwy neu dwyfol yw gwreiddair 'dwyfol,' cysegredig. Y mae yn gyd—darddedig â deva y Sanscrit, dea y Lladin, thea y Groeg, dia y Wyddelaeg, doué y Llydawaeg, a dwyw yr hen Gymraeg neu Frutanaeg. Ceir ef yn gyfansawdd na Gwasdwy, neu Gwasduy fel y mae yn y Record of Carnarvon, ac yn meudwy; ac yn y ddwy engraifft hyn yr ystyr yw 'dwyfol.' Ond gan nad wyf yn chwenych cyhoeddi golygiadau ieithyddol yn ex cathedra, mi a ddyfynaf o awdwr ag y mae ei gyrhaeddiadau ieithyddol yn meddu enwogrwydd Ewropeaidd. Os try Canon Williams i Rhys's Lectures on Welsh Philology, tudal. 325, efe a dderllyn yr hyn a ganlyn:—'The Dee, Deva, probably means the goddess, (that is, in contradistinction to the masculine god); and as the river is still called in Welsh Dyfrdwy or Dyfrdwyf,— the water of the Divinity,' &c. Felly yr ysgrifena. Mr. Rhys. Ond myn y Canon blygu dwy neu dwyf i du er mwyn ategu ei ddamcaniaeth. Mae y geirdarddiad uchod yn cael ei gadarnhau yn yr Archeologia Cambrensis gan ysgrifenydd a ymgyfenwa 'Cereticus,' a gallwn dybio fod ei olygiadau yn cael eu derbyn gan y golygydd, y Parch. D. Silvan Evans, onide nid ymddangosasent yn y cyhoeddiad hwnw. (Cyf. v. o'r 4edd gyfres, tudal. 86). Mae y ffurfiau Dwyf a Dayw (ll., dwyfau a dwywiau) i'w cyfarfod nid yn anfynych, a gwahanol ffurfiau ydynt ar yr enw Duw; ac mewn geiriau fel Dwyf arferiad nid anfynych yw gadael allan yr derfynol with yngan y gair. Oddiwrth dwyf y daw dwyfol megys y ffurfir duwiol oddiwrth Duw. Arferir Dyfrdwy a Dyfrdwyf am yr afon Dee yn yr iaith frodorol. Ond pa beth a ddywed tystiolaethau hanesyddol? Y maent i gyd yn ei erbyn. Ni wna efe gyfrif o Giraldus Cambrensis, fel yn byw mewn oes ddiweddar; ac eto ysgrifenai Giraldus wyth gan' mlynedd yn ol. Drayton a Spencer, er eu bod yn canu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a ystyrir ganddo fel caws llyffant. A oes arno eisieu