Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfnod o'r amseroedd cyn y diluw? Dywedir fod y cyfryw gofnodiad i'w gael yn achyddiaeth un o'n tywysogion Cymreig, sef 'Oddeutu yr adeg yma y crewyd y byd!' Mae yn wir nad oes un son am y traddodiad yn ein hen farddoniaeth Gymreig; ond y mae y neb sydd yn gynefin â'r hen feirdd yn gwybod nad ydynt yn ymwneud ond ychydig â chwestiynau dychymygol a chwedlonol o'r fath yma. Pa beth, ynte, yr wyf yn ail ofyn, yw y dystiolaeth hanesyddol a gawn gan yr hen ysgrifenwyr hyn? Cyhoedda Giraldus fod Deverdoeu, yr hyn yn ein hoes ni a fyddai Dyfrdwy neu Dyfrdwyf, wedi ei donio â dwyfoldeb, neu y rhagwybodaeth a'i galluogai i ragfynegi llwydd neu aflwydd i'r Celtiaid neu y Saeson. Michael Drayton, yn y nawfed caniad o'i Polyolbion, a wna i Feirionydd ddadgan gydag ymffrost—

"The pearly Conway's head, as that of holy Dee,
Renowned rivers both, their rising have in me.'

Yn y degfed caniad efe a ddywed:—

'Twice under earth her crystal head doth run;
When instantly again Dee's holiness begun.'

"Yr oedd hanesiaeth neu chwedloniaeth wedi argraffu yr un meddylddrych ar feddwl Spencer. Yn ei amser ef yr oedd yn hen nodwedd i'r afon. Efe a ddywed :—

'And following Dee, which Britons long ygone
Did call divine, that doth by Chester tend,'

"Nid oedd Milton a'i ddysgeidiaeth enfawr heb wybod am ei hanes, pan y llefarai am dir yn yr hwn

'Deva spreads her wizard stream.'

"A pha beth yw iaith ein Bardd Breiniol, yr hwn a gânt mor anwyl ac mor dda ein rhamantau Arthuraidd? A ydoedd efe yn anwybodus yn nghylch chwedloneg a llên gwerin y Celtiaid pan yn canu—

"As the South—west that blowing Bala lake
Fills all the sacred Dee.'

"Yr wyf yn hyderu y bydd i hyd yn nod y sylwadau brysiog hyn argyhoeddi Canon Williams ei fod wedi camgymeryd yn y