Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wele yn canlyn englyn Twm o'r Nant i "Adardy Rug,"—

"Pleserus heb liw sarug—anedd—dy
Mewn mynydd-dir mânrug;
Gorsedd Berwyn swydd barug,
Adail rwydd i deulu Rug.'

Anfonwyd cyfansoddiadau tri, sef eiddo Twm o'r Nant, Jonathan Huws, a Gwallter Mechain, i Gymdeithas y Gwyneddigion i farnu pa un o honynt a deilyngai y gadair arian. Rhoddwyd y llawryf i Walter Davies, nes y dywedid—

"Twm o'r Nant a'i fant fwyn
A ildiodd i Drefaldwyn.

Ond digiodd Twm, a mwmiai—

"Rhoi clod i Wallter ddallder, ddu,
Cyhoeddus cyn ei haeddu.'

Digiodd rhai o gyfeillion Twm yn aruthr, yn neillduol Dr. D. Samuel, yr hwn a aeth mor bell a cheisio gan un o'r blaid wrthwynebol fyned i ymladd omnest; ond diweddodd y cwbl yn dawel drwy i'r Doctor roddi anrheg i Twm o ysgrifbin arian, ac yn ysgrifenedig arno, "Rhodd Dafydd Samuel i T. Edwards, Penbardd Cymru. Anfonodd y bardd o'r Nant awdl o ddiolchgarwch yn ol iddo yntau. Cyflwynwyd medal arian hefyd yn yr Eisteddfod uchod i Lewis Roberts, Maentwrog, am ganu penillion gyda'r delyn deir-rhes. Cyhoeddid yn Eisteddfod Corwen fod yr un ganlynol i'w chynal yn y Bala. "I'r Bala'r tro nesa" 'rawn ni," meddai un; "Qes bai feddwl os byw fyddi," meddai un arall mewn mynyd.

Ceir hanes yn y Gwyliedydd, Goleuad Cymru, &., am nifer o Eisteddfodau yn cael eu cynal yn Edeyrnion yn y rhan gyntaf o'r ganrif hon. Weithiau ymgynullent yn y Stamp, Llangar; weithiau dan arwydd y Delyn yn Nghorwen; ac weithiau yn y Ddwyryd. Bu Peter Llwyd o Gwnodl yn Fardd y Gymdeithas am gryn amser, a'r Parch. Mr. Clough yn Llywydd. Bu y mân. Eisteddfodau hyn yn gyfleusdra i dynu egnion beirdd lleol da allan, megys Peter Llwyd, Eos Ial, Iolo Gwyddelwern, &c. Gwnaethant lawer tuag at ddwyn iaith a llenyddiaeth y Cymry i sylw ieuenctyd yr ardaloedd, gan greu rhyw gymaint o gyffro