Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddyliol, ac ysgwyd tonau llyn llonydd cymdeithas y dyddian hyny.

Cynaliwyd Eisteddfod fawr yn Nghorwen yn Awst, 1874, yr hon a barhaodd am ddau ddiwrnod, yn cael ei llywyddu gan yr Anrhydeddus C. H. Wynn, Rug; S. Holland, Ysw., A.S.; J. Parry Jones, Ysw., Dinbych; a T. Eyton Jones, Ysw., M.D., Gwrecsam, brodor o Edeynion. Ymgynullodd miloedd o bobl I'r babell eang, ac yn eu mysg rai o brif uchelwyr y wlad, a chyfrenid gwobrwyon am weithiau celfyddydol yn gystal ag am gerdd dafod a cherdd dant. Anhawdd peidio teimlo fod ysbryd yr oes wedi newid llawer. Nid y gwladgarwch goreu yw glynu yn gibddall wrth hen arferion, ond cadw rhinweddau ein hen dadau er newid y ffurf, ac ymwrthod â'u colliadau, er mai colliadau Cymry oeddynt.

GWELLIANT GWALL

Yn tudal. 17, yn lle Harri VII. darllener Harri II.

DIWEDD