Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLANSANTFFRAID GLYN DYFRDWY

Y mae y plwyf, yr hwn oedd gynt yn gysylltiedig â Chorwen, yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain yn sir Feirionydd, yn taro ar sir Ddinbych, ac yn cael ei ddyfrhau gan yr afon Dyfrdwy. Cynwysa bedwar cant a haner o erwau o dir llafur a phorfa, Cauwyd yr holl dir anniwylliedig drwy gyd-ddealltwriaeth heddychol rhwng y tirfeddianwyr yn y flwyddyn 1807. Ymunir â'r Dyfrdwy yn y plwyf hwn gan yr afon fechan Morwynion, sydd yn llifo i lawr o'r Morfydd. Y mae y golygfeydd amgylchynol yn dra amrywiol. Wrth syllu ar y dyffryn o safle fanteisiol uwchlaw Rhagad, gellir gweled yr afon yn ymdroelli fel sarff:

"Darwena'n swynol ar y doldir tonog,
Y llwyni hardd a'r bronydd mân twmpathog."-GLASYNYS

Gellir gweled dyffryn a mynydd, dôl a bryn, bob un yn ei brydferthwch ei hun, yn chwareu ei ran yn yr olygfa geinferth. Y mae Eglwys y plwyf yn ei ffurf bresenol wedi ei hadeiladu yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, gan i orlifiad y Dyfrdwy lwyr ysgubo yr adeilad blaenorol, gan ei roddi yn anrheg i'r môr. Ceir y penill canlynol ar lafar gwlad:-

"Dyfrdwy, Dyfrdwy fawr ei naid,
Aeth ag Eglwys Llansantffraid,
Y llyfrau bendigedig,
A'r gwpan arian hefyd."

Gobeithir fod awdwr y penill yn fwy cywir fel hanesydd nag ydyw o gywrain fel bardd. Ceir tair ywen o dyfiant ardderchog, a hen yr olwg arnynt, yn y fynwent, pa rai ydynt wedi gollwng eu dagrau i eneinio beddau llawer cenedlaeth. Darfu un Griffith Roberts, yr hwn a fu farw yn 1812, adael £20 yn ei ewyllys, llogau yr hyn sydd i'w rhanu rhwng tlodion yr ardal ar foreu dydd Nadolig. Ceir tai ar fin y Dyfrdwy, yn agos i gapel y Bedyddwyr, yn dwyn yr enw "Carchardy Owain Glyndwr;" a dywedir y byddai yr hen wron enwog hwnw yn cadw ei garcharorion rhyfel yn y lle. Yr ochr arall i'r afon, yn nghyfeiriad Llangollen, mae cae a elwir Dôl Penni, a'r traddodiad ydyw fod Owain unwaith wedi gosod nifer o bolion yn y maes hwn, a gwisgo pob un o honynt mewn gwisg filwraidd, er mwyn twyllo byddin y Sacson. Llwyddodd y ddyfais. Ymosodwyd yn ddidrugaredd ar y milwyr pren, y rhai nad oeddynt fymryn gwaeth;