gamp yn yr eisteddfod gadeiriol. Cyfansoddodd draethawd maith a llafurfawr ar addysg yn y pedwar plwyf, am yr hwn y derbyniodd wobr addawedig y pwyllgor, a chanmoliaeth uchel ei feirniad. Dyledus i ni yw crybwyll ei fod yn gystuddiol bellach er's bron ddwy flynedd, ac iddo gyfansodddi y traethawd o dan anfantais anocheladwy ei waeledd. Yr oedd yn dringo hefyd yn gyflym i enwogrwydd fel bardd, ac ni a roddwn gerbron gân fechan a gyfansoddodd yn lled ddiweddar, am ei bod yn sylfaenedig, ebe fe, ar ryw draddodiad cysylltiedig â'r Baladeulyn.[1]
I'w hynt garwriaethol dros lechwedd y mynydd,
Caswallon ab Dulyn gychwynai'n min oes,
Gan feddwl cyrhaeddyd hyd annedd Aeronwy,
A garai mor gywir, a welai mor dlos.
Wrth ddisgyn y llechwedd, chwibanai alawon
I glustiau yr awel a grwydrai y bryn;
Dych'mygai fod delw Aeronwy i'w chanfod
Yn nelw y lloer a arianai y llyn.
Dan chwiban a chanu, dan feddwl dychwelyd,
Cyrhaeddai Caswallon hyd afon y llyn;
Ac yno eisteddai i wrando murmuron
Yr afon, wrth dreiglo hyd raian man gwyn.
'Rol enyd o seibiant, cychwynodd ab Dulyn
I groesi y bont-bren yn ysgafn ei fron;
Ac yn ei freuddwyddion am gwmni Aeronwy
Fe syrthiodd Caswallon i ymchwydd y don.
Caswallon ab Dulyn ga'dd ddyfrllyd orweddle,
'N lle mynwes Aeronwy-yn mynwes y lle;
A hithau, Aeronwy, adawyd yn unig,
Ymlanwai ei chalon o hiraeth a chri.
Tra'r dyfroedd yn rhedeg dros raian yr afon,
Tra defaid ac ychain yn yfed o hon,
Fe gofir Caswallon, ac hefyd Aeronwy,
Fu'n tywallt eu dagrau i chwyddo y don.
Yn ol y traddodiad uchod, "Pa le mae Dulyn," yr hyn a waeddai Aeronwy, yw ystyr Baladeulyn yn Nant Nantlle.
MORRIS WILLIAMS, NEU MEIRIG WYN
sydd fardd a ddylai fod yn fwy adnadyddus. Y mae Meirig yn byw
- ↑ Bu farw y llenor ieuanc a gobeithiol uchod ar y 17eg o fis Medi, 1871. Yr oedd yn aelod eglwysig gyda'r Methodistaid yn Talysarn, a bu farw mewn tangnefedd, yn 25ain mlwydd oed.