mewn congl hafaidd, gerllaw teml harddwych y Methodistiaid, yn Hyfrydle, ac yn un o'r saint mwyaf defosiynol. Y mae yn dra neillduedig yn ei arferion, ac yn gynil o'i gymdeithas oddieithr i fodau yn byw o fewn byd yr englynion, sef ei ddewis bethau ef ei hun. Nid oes genym o fewn terfynau ei well am englynion; y mae bob amser yn bwrpasol a diwastraff, a dengys pob llinell a ddaeth o dan ei law radd neillduol o berffeithrwydd. Cymerer yr ychydig engreifftiau canlynol yn brawf o hyny. Buasai yn dda genym allu dyfynu ychwaneg, oni bai fod ein terfynau yn prinhau.
I'r Corwynt—
Distrywiol dost darawiad—y corwynt,
Nis ceir y fath hyrddiad ;
Dryllia yn ei hy droelliad
Irion a glwys dderw'n gwlad,
Anorfod ruthr cynhyrfus—yn tori
Mal taran frawychus ;
Teg rwymau y tai grymus
O'i faen ymroant fel us.
Onid Ior, pan ruo'r corwynt,—a rodia.
Ar edyn y ffromwynt;
A gair, rheolwr y gwynt,
Ffrwyna agwedd ffyrnigwynt.
Eto i'r Ystorm—
Pylu mae gwyneb haulwen—o'r olwg
Ar aeliau'r ffurfafen ;
Arwydd nos ar wedd y nen,
Fflachia, ymwylltia mellten.
Yn nhrymder dwyster distaw—y daran
Ymdoru dan ruaw .
Eeo oerlym y curwlaw ”
Wna grog drwst yn y graig draw,
Englyn hwyrol.—
'O! mor dlos y nôs yw y non—gwena.
Gogoniant yr wybren ;
Gwaith Naf yw llu'r ffurfafen
Profant hwy pwy yw'r pên.
Ni a ddygwn y rhestr uchod i derfyniad gyda'r llinellau dilynol o eiddo