Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Maeldaf Hen, am eu bod yn dal cysylltiad â dosbarth lluosog yn Nantlle, yn hytrach nag oherwydd unrhyw ymsyniad sydd ynom o'u rhagoroldeb.

Y CHWARELWR.

Hen Wynedd anwylaf oganwyd cyhyd
I rythol anrhydedd ddyrchafwyd;
Ei chyfoeth orweddai o olwg y byd,
'Trwy orchest; ei meibion enillwyd :
Prif addurn y palas ardderchog a'r dref
Yw cynnyrch ein henwog chwarelau, -
Estroniaid pellenig pob cwr dan y nef
Gant orphwys dan gysgod ein creigiau.

Darllenodd ar wyneb y mynydd ban cryf
Agweddau ac ansawdd ei galon;
Ei feirch a'i gerbydau a enfyn yn hyf
Hyd briffyrdd trwy'r bryniau talgryfion ;
Fe ddringa uchelion rhamantus a serth,
Gan hongian wrth aeliau'r clogwyni ;
Yr haenau a blygodd yr Ior trwy ei nerth
Mollyngant ger bron ei wrhydri.

'Uwch dyfnder brawychus eí orchwyl y sydd,
A'i einioes yn hongian wrth didau,
'Tra'n tynu esgoiriau y ddaear yn rhydd,
Ac ysgwyd ei chedyrn golofnau.
O'r creigiau diaddurn, a'r gyllell i'm law,
Y lluniau ei brydferth ddalenau,
I'w taenu yn orchudd rhag curwynt a gwlaw,
Ac addurn ein prydferth anneddau.

Er gweled archolli cyfeillion tra mad, —,,
A gwaed yn ystsenio'r clogwyni,
Mae clod ei orchestion yn llenwi, y wlad
Dyrchefir yn mhell ei wrhydri.
Hardd golofn yn nhemel trafnidiaeth y byd
Gyfododd o'r lechfaen fynyddig;
Mae'i oes yn orchestwaith o'r bron ar ei hyd,
A'i enw ef fydd ddyrchafedig

Tra byddom yn nghymdeithas y beirdd dichon mai nid annifyr fydd gan y darllenydd ein dilyn heibio i'r mynwentydd, lle ceir aml ddesgrifiad awenyddol o gymeriad y personau a gladdwyd ynddynt. Y mae llawer o brudd—ddifyrwch yn gystal a gwersi priodol i'r byw, i'w gael wrth ymweled â gorweddleoedd y meirw, lle teyrnasa y dystawrwydd a'r cydraddoldeb perffeithiaf. Oni fuom yn barod i addef fed darllen ambell i