Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

englyn beddargraff i'w deimlo fel llais o'r bedd, rhybuddiol a chyffrous, at galon a chydwybod y byw? Gwir fod llawer o bethau ar ffurf englynion i'w cael mewn mynwentydd nad ydynt yn adlewyrchu unrhyw anrhydedd ar eu hawdwyr, nag ar chwaeth y rhai a barasant iddynt gael eu cerfio ar feddau eu cyfeillion neu eu perthynasau. Ni fydd ini wneyd mwy na phigo ychydig o'r goreuon wrth fyned heibio.

Mynwent St. Rhedyw, Llanllyfni. Mae yr orweddle hon ar lethr ddymunol ar lan yr afon Llyfnwy, yr hon sydd yn murmur yn barhaus wrth olchi ei godreu. Yma ar fedd Mr. William Hughes, Ty'nyweirglodd, ceir yr englyn canlynol o waith Eben Fardd:

I Hughes hybarch boed seibiant, —dyma'i fedd
Dyma faen ei gofiant;
Ei awen fry dery dant
Ac a gan don gogoniant..

Eto ar fedd Richard Hughes, Nantlle, yr hwn a laddwyd trwy ddamwain yn y gloddfa. Yr awdwr yw Llwydlas:

Trwy y ddamwain trodd ymaith—o afael
Du ofid ac anrhaith;
Dai'r dyn, wedi hir daith,
Na wel ofidiau eilwaith,

Ar fedd morwr ceir yr englyn canlynol, ac enw Alltud Eifion wrtho:

Daethum ar ol hir deithio—y mor llaith,
Dyma'r lle 'rwy'n huno;
Diwedd fy holl fordwyo
Yw calon graian y gro.

Dyma un arall o waith Dewi Arfon ar fedd gwr a gwraig:

Morgan yn y fan hon fydd—a'i Ann fwyn
Yn fud dan len lonydd;
Yma' eu plant boenant beunydd,
Dagrau serch hyd y gro sydd.

Eto ar fedd Lowri, gwraig i William Thomas, heb enw yr awdw wrtho:

O'r du lawr y daw Lowri—i fyny
O fynwent Llanllyfni;
Mae teyrnas addas iddi,
Dydd heb nos i'w haros hi.

Wele un arall ar fedd T. Williams:

I wael fan, dywell annedd, —y daethum
O daith byd i orwedd;
Cefais fy nghau mewn ceufedd
O glyw byd dan gloiau bedd.