Yma wrth fedd Martha fâd—dagrau serch
Hyd y gro sy'n siarad;
Iaith aml galon a'i theimlad-ond gwrando,
Ni raid gofidio'n yr adgyfodiad.
Ar fedd Catherine, merch Eben Fardd, ceir yr englyn canlynol, y diweddaf a ddetholwn:
O rwymau muriau marwol,—trwy Iesu
Mewn trwsiad ysbrydol,
Hi ddring, a'i llygredd ar ol,
I 'stafell y llys dwyfol.
Mae yn yr hen fonwent hon doraeth ychwanegol o englynion, ond y mwyafrif yn israddol i'r rhai uchod mewn teilyngdod; a rhag blino y darllenydd ni fydd i ni yma eu hadysgrifio.
PENNOD IV.
Parhad Hanes Presennol.
Yn y bennod hon, gyda pha un y terfynir ein hymdrech, cawn fyned rhagom i grybwyll am ychydig o leoedd neillduol eto o fewn ein terfynau. Gan i ni grybwyll yr oll sydd genym i'w grybwyll am Drws y coed, yn nechreu y dosbarth hwn, cawn ddechreu ein taith yn awr yn
NANTLLE.
Mae y lle hwn ar lan y llyn, yn neillduol o gysgodol, isel, a ffrwythlawn, ac yn cynnwys nifer led luosog o dai trigiannol o adeiladwaith ddiweddar. Cafodd y lle ei enw oddiwrth Nantlle, palasdy Tudur Goch, yr hwn sydd eto yn gyfan; yn ymyl ei gefn y safai y gegin, yr hwn, fel y tybid yn gyffredin, ydoedd yn rhan, o leiaf, o'r hen lys tywysogol. Gresyn oedd difrodi yr hen balasdy hwnw, gan y buasai ar gyfrif ei oedran yn meddu ar fwy o ddyddordeb nag unrhyw adeilad arall yn y gymydogaeth. Uwchlaw y lle hwn ar fron y Cilgwyn, mewn lle a elwir Cae'r Cilgwyn, y mae olion cloddiau eang a llydain, y naill yn ymgodi uwchlaw y llall mewn pellder penodol oddiwrth eu gilydd. Nid oes genym unrhyw fantais i ffurfio barn am yr olion yma, ond dywed traddodiad yn y gymydogaeth fod llwyth lluosog o'n hynafiaid wedi ymsefydlu yma mewn amser tra boreuol, sef pan oeddynt yn ymsymud yn finteioedd crwydrol, ac yn adeiladu mathau o bebyll anghelfydd o hesg, a chlai, a gwiail, ar lanau y llynan a'r afonydd, gan ymborthi ar ffrwythydd, pysgod, a helwriaeth. Y prif adeiladau yn Nantlle ydyw y Baladeulyn, preswylfod John Lloyd Jones, ysw., mab hynaf y diweddar