Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Barch. John Jones, Talysarn. Y mae Mr. Jones yn foneddwr anturiaethus a chyfoethog, haelfrydig, a chymwynasgar, ac yn flaenor yn nghyfundeb y Methodistiaid yn Nantlle, lle mae hefyd addoldy hardd & chostfawr a gyfodwyd trwy ei haelioni ef yn benaf. Mrs. Jones ydoedd unig ferch y diweddar W. Williams, ysw., Llanwyndaf, ac y mae iddynt amryw o blant. Capel newydd y Methodistiaid, fel yr awgrymwyd, sydd hefyd yn adeilad eang a harddwych, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1865, lle hefyd y mae eglwys flodeuog yn rhifo tua 80 neu ychwaneg. Mae yma amryw fasnachdai mewn nwyddau bwytadwy, y rhai penaf yw yr eiddo Mr. Thomas Roberts, a John Roberts, a Mrs. Evans, gweddw y diweddar Mr. Evan Evans, yr hwn a laddwyd trwy ffrwydriad pylor yn nghloddfa Penyrorsedd. Mae yma hefyd gangen o'r llythyrdy, ac amryw gyfleusderau ereill mwy cyffredin.

TALYSARN.

Wedi ymsymud rhagom yn nghyfeiriad Penygroes, ar hyd ffordd sydd yn cael ei chysgodi ar bob llaw gan y tomenydd uchel, a thros yr hon y mae amryw o bontydd peryglys yr olwg arnynt i ddyeithrddyn, yr ydym yn dyfod heibio i balasdy, a nifer luosog o annedd-dai a elwir Talysarn. Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Sarn Wyth-ddwr, fel y gelwid y sarn a groesai yr afon gerllaw Tre-grwyn. Yma mae tri o addoldai eang a chyfleus, yn neillduol eiddo y Methodistiaid a'r Annibynwyr, amryw o fasnachdai, llythyrdy, &c. Yma y mae Bryn Llywelyn, tŷ hardd a adeiladwyd gan Thomas Lloyd Jones, ysw., ac a ddefnyddir yn bresennol fel gwesty dan yr enw Nantlle Vale Hotel, ac a gedwir gan Thomas Griffith. Y Coedmadog hefyd sydd yn un o'r anneddau mwyaf golygus a hyfryd, yr hwn a adeiladwyd gan y diweddar Hugh Jones, ysw., Goruchwyliwr Cloddfa Penybryn, a pherchenog ystad Coedmadog. Yma hefyd y preswylia ei weddw Mrs. Jones, a'i ferch M. Jones, yr hon sydd yn ieuanc. Wrth fyned rhagom deuwn heibio i Hyfrydle, addoldy newydd eto perthynol i'r Methodistiaid, ac wedi myned heibio Pant Du, palasdy henafol William Bodfil, a'r Llwynonn, annedd wych y Dr. John Williams, yr ydym yn cael ein hunain yn nghanol pentref eang a chynnyddol

PENYGROES.

Dyma ganolbwynt masnach a thrafnidiaeth y dyffryn, gan ei fod yn sefyll yn ganolog, ac yn meddu ar ei farchnadfa, ei railway station, a lluaws o fanteision neillduol ereill. Mae yn y lle hwn dri o addoldai gan y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, amryw o fasnachdai llwyddiannus, yn neillduol yr eiddo Mr. O. Roberts, yr hwn sydd yn un o'r masnachdai mwyaf golygus yn y wlad. Mae yma hefyd amryw o westai, y rhai penaf ydynt y Stag's Head, y Goat, y Prince of Wales, a'r Victoria Vaults. Yma hefyd y ceir shop lyfrau, ac argraffdy, y rhai a gedwirgan Mr. Griffith Lewis. Gerllaw Penygroes y mae y Sea View,