derfynodd y mynai gael ymwared oddiwrth ei boenydiwr, trwy ffurfio cynllun i gael gwybod i sicrwydd pa fodd yr ymddygai ei briod a'i ferch pe byddai efe wedi ei ddwyn oddiwrthynt. Y prydnawn crybwylledig ymddangosai fel yn cael ei flino yn arw gan y pruddglwyf, rhodiai yn wyneb drist, siaradai, yr ychydig a siaradai, mewn ton leddf a galarus, a chyda'r hwyr ymneillduodd i'r beudy, diosgodd ei ddillad, llanwodd hwy â gwellt, a chrogydd y dyn gwellt o dan y swmer; yna ymguddiodd o'r neilldu i weled beth fyddai y canlyniad pan ddeuai y merched i odro y gwartheg. Daeth yr adeg gyda gwyll y nos fel arfer, dyna'r merched yn agor y drws, ac och! dyna y priod a'r tad yn hongiau yn grogedig! Cyfedwyd gwaedd wylofus; gwaeddai y wraig am ei phriod, datganai ei rinweddau ef, a'i cholled hithau, a'r ferch yr un modd. A phan oeddynt yn tori y corff i lawr daeth yr hen fachgen o'i ymguddfan wedi ei lwyrfoddloni eu bod yn eu garu, ac ni flinodd yr ysbryd amheus ef mwy. Na feier ni am gyflawni rhan hanesydd trwy gofnodi y ffaith ddigrif hon.
Ymddengys y byddai boneddigion gynt yn cadw yr hyn a elwid ffwl, neu ddyn a fedrai ddynwared ymddangosiad hurtyn er difyrwch ac adloniant i'r teulu. Yr oedd un o'r cymeriadau hyn yn Lleuar, yn amser y Wyniaid. Un diwrnod yr oedd ffermwr cyfagos yn petruso a allai efe groesi sarnau Lleuar, gan fod yr afon wedi llifo yn arw. Gwelai y ffwl ef yn petruso, a nesaodd at yr afon. "A ydych chwi yn meddwl y gallaf groesi y sarnau yn ddiogel ?" ebe y ffermwr. "O, pa'm nas gellwch," oedd. yr atebiad; "ychydig funudau yn ol croesodd boneddwr mor hardd ei ddillad a chwithau y sarnau yn ddiogel." "Wel, os gallai ef, pa'm nad allaf finnau," ebe'r ffermwr druan, a chymerodd y sarnau; ond nid cynt y dechreuodd eu sangu nag yr ysgubodd y llifeiriant ef ymaith, a buasai wedi boddi oni bai y ffwl ei achub. Y boneddwr oedd wedi croesi yn ddiogel o'i flaen oedd y ceiliogwydd! Mae y sarnau yn aros, ond y ffermwr a'r ffwl wedi myned!
Ond nid oes terfyn i hanes dygwyddiadau fel hyn, gan hyny y mae yn rhaid i ni eu gadael. Y wyddor a efrydir yn fwyaf cyffredinol yn awr, a'r hon mewn canlyniad sydd wedi cyrhaedd y graddau uwchaf o berffeithrwydd, yw cerddoriaeth. Gwir nad ydym yn gallu ymffrostio mewn cerddorion enwog, er hyny y mae genym nifer o wŷr ieuainc sydd yn dringo rhagddynt yn gyflym, ac yn cipio yn aml flodeuyn arobryn yn ein heisteddfodau a'n cyfarfodydd llenyddol. Yn mysg y rhai hyn y gellir crybwyll yn arbenig am Mr. John Hughes (Alaw Llyfnwy), William Roberts, Penygroes (Ehedydd Llyfnwy), Hugh Owen (arweinydd y Glee Society). Y mae genym ddwy seindorf, un yn Llanllyfni, a'r llall yn Nantlle, gwasanaeth pa rai a geir yn hwylus a gwerthfawr mewn gorymdeithiau, cyngherddau, &c. Hefyd, amryw gorau a glee societies perthynol i'r amrywiol ardaloedd, yn mysg y rhai efallai mai y Talysarn Glee Society, dan arweiniad Mr. Hugh Owen, yw y fwyaf cyhoeddus, i'r hon y mae Mair Alaw yn addurn gogoneddus.
Mewn rhan o'r Nant y mae addysgiaeth y plant wedi ei drosglwyddo i ofal Bwrdd Addysg. Y mae Bwrdd plwyf Llanllyfni yn gynnwysedig