o'r boneddigion canlynol:—Parchn. W. Hughes, M.A., periglor, a W. Hughes, Coedmadog; Dri. Williams a Roberts, Penygroes; a Mr. Hugh Jones, Gelli Bach. Darfu i blwyf Clynnog, trwy lais y mwyafrif, ymwrthed â derbyn y Bwrdd yn y plwyf hwnw; pa un o'r ddau a wnaeth y peth doethaf, efallai mai amser fydd yr esboniwr goreu.
Ddarllenydd hawddgar, y mae ein gorchwyl yn awr ar ben. Da fuasai genym iddo fod yn berffeithiach. Gan y bydd y cyfleusderau teithiol yn fuan wedi eu perffeithio yn nghwblhad y rheilffordd trwy rhan helaeth o'r dyffryn, ni a hyderwyn y bydd yr ymdrech yma yn rhywbeth er dwyn neillduolion y Nant yn fwy i sylw. Y mae hen ddyffrynoedd Arfon yn oludog o drysorau, a'u cudd-adnoddau braidd yn ddihysbydd, a phob dydd y mae y meddwl dynol yn enill rhyw oruchafiaeth newydd, ei gynlluniau yn ymeangu, a thrysorau newyddion yn cael eu dadguddio iddo.
O dan ddeddf bresennol addysg y mae lle i hyderu na fydd un cwr o'r wlad heb ddarpariaeth briodol tuagat gyfranu addysg i blant tlodion. Yn wir y mae y ddeddf ddiwygiedig wedi gwneyd hyn yn anhebgorol. Yn fuan fe symudir pob rhwystr ac esgusawd dros anwybodaeth, ac ni fydd cymaint ag un dyn anllythyrenog o fewn y Dywysogaeth a'r Deyrnas.
Ac yn nghanol ein gwelliantau, na fydded i ni anghofio ein cyfrifoldeb moesol, canys daw y dydd pan ddystewir swn y morthwylion ar y creigiau-y galwad, fe ddichon, wedi dihyspyddu yr adnoddau. Ie, daw y dydd y bydd yr elfenau gan wir wres yn toddi. Lleibir y llynau a'r Llyfnwy drystfawr gan fellt y farn. Y dydd hwnw caffer ni oll "ynddo ef," a chyda y seintiau y rhai sydd wedi ein rhagflaenu-llwch y rhai a orweddant dan ein traed yn y mynwentydd, ac ysbrydoedd pa rai a wyliant ein hysgogiadau o'r nefoedd.