Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwynt wrth daro yn erbyn y pendistïau oesol hyn fel olyniad o daranan. brawychus, Nis gall yr olygfa yma beidio a llenwi enaid yr ymwelydd ag arswyd cysegredig. Yma y mae natur yn teyrnasu yn ei hawdurdod a mawredd ei Chreawdwr wedi argraffu arni mewn. llythrenau breision digamsynied.

Fel yr ydym yn dyfod i waered, gan ddilyn cwm y Llyfnwy, y mae y dyffryn yn ysgafnau ac yn ymledu. Tua milldir islaw Drws-y-coed deuwn lan y llynau, y rhai a wahenir gan wddf-dir cul a elwir "Bala-deulyn." Mesura y ddau lyn tua milldir a haner o hyd, wrth chwarter milldir o led. Wedi dyfod rhagom tua dwy filldir drachefn, y mae y trum o fynyddau ar ein llaw ddehau yn diflanu, a'r dyffryn yn ymledu bron yn wastadedd. Modd bynag, y mae y gadwyn ar ein haswy yn parhau; a chan ogwyddo tua'r gogledd ar ffurf fwäog, terfyna yn mhwynt Pen-y-rhiwiau, ar lan y mor gerllaw pentref Clynnog Fawr. Ac os cymerwn y pwynt hwn yn derfyn ar un llaw, a Dinas Dinlle ar y llaw arall, bydd genym felly o'n blaen ddyffryn yn mesur tun chwe' milldir o hyd, gan amrywio o ychydig latheni hyd tua pedair milldir o led, Ar hyd y dyffryn hwn y rhed afon Llyfnwy, gan gychwyn ychydig uwchlaw. Drws-y-coed, a therfynu yn y mor, ychydig islaw Fontlyfai, ar lan bau Caer-yn-arfon. Tybiwn mai dyma y terfynau a gynnwysir yn briodol o fewn dyffryn Nantlle, er ei fod yn haeddu ei grybwyll nad yw yr enw yn cael ei gymhwyso ond at y rhan uwchaf ohono yn gyffredin.

Tua 600 mlynedd ym ol buasai y dyffryn yna yn ymddangos i'r edrychydd yn nantle goediog, anniwylliedig, ac anial; a'r cyll-lwyni tewion yn dringo i fyny ar hyd ystlysau y mynyddoedd sydd yn ei gysgodi. Ymddangosai moelydd y Tryfan, y Cilgwyn, Glan-yr-afon megys pennu moelion hen wŷr, a'r coed tewion megys llaeswallt i lawr eu hysgwyddau a'u godreuon. Ar hyd penau y moelydd hyn gallesid gweled ein henafiaid syml yn ysgraffinio ychydig ar y tir tenau cerygog, tra y gadawent yr iseldiroedd breision yn noddfeydd bwystfilod ac ymlusgiald. Ymddyrchaf mwg o'u hanneddau cyfyng a diaddurn fel cymylau eur-wlanog i'r uchelder, Clywid twrf ymdreigliad y Llyfnwy rhwng ceunentydd anhygyrch, ac ymddangosai y "llyn" megys anoddfn prudd, erchyll, yn nghanol llwyni o goed tew-frigog, Y pryd hyny yr oedd holl amgylchoedd y Wyddfa yn llawn o ddyrysgoed, ac yn llochesau ceirw gwylltion a bleiddiaid, Y clogwyni serth a danneddawg â ddefnyddid gan ein tywysoglon dewr fel amddiffynfeydd pan yn cael eu hymlid gan dramoriaid lluosog a gwaedlyd. Ond, pan syrthiodd ein. 'Llywelyn," ac y gorchfygwyd Cymru gan Iorwerth y Cyntaf, efo a Gorchymynodd ddinystrio fforestydd breninol y Wyddfa, fel nad allent mwyach fod yn achos i wrthryfel yn erbyn coron a llywodraeth Lloegr, Cwympodd ein coedwigoedd gyda chwymp ein hannibyniaeth. Dengys y lluosogrwydd o goed derw a chyll o bob maintioli a orweddant o dan yr arwyneb, yn mhob rhan anniwylliedig o'r dyffryn, pa mor goediog y rhaid fod y lle yma gŷnt.

"Wedi i heddwch gael ei sefydlu, a'r tiroedd gael eu diwyllio, daeth y "Nant" i wisgo gwedd brydferthach, Ymddangosai y maesydd llydain