yno, fod o fewn ei gof ef amrai o feini hirion cyffelyb yn sefyll mewn pellder neillduol oddiwrth eu gilydd. Bron yn y canol gellir gweled maen mawr yn gorwedd mewn rhan yn y ddaear, yr hwn yn ol pob tebyg ydoedd gynt yn fwrdd cromlech, o amgylch yr hwn yr oedd y meini hirion yn ffurfio cylch derwyddol. Modd bynag, y mae yn bur amlwg fod yn y fan hon ryw wasanaeth mewn cysylltiad â'r grefydd hono yn cael ei ddwyn yn mlaen, neu ynte fod yma amryw o wyr urddasol wedi eu claddu, fel y mae y meini hirion yn gyffredin, fel y tybir, yn arwyddo.
Hyd yn lled ddiweddar yr oedd tair o'r cyfryw adeiladau ar ben y Cilgwyn, yn nghyda chylch o feini cysegredig a elwid "Mynwent Twrog," lle y dywedir fod lluaws mawr wedi eu claddu. Ond erbyn hyn y mae yr holl feini a ffurfient y gweddillion hynafol hyny wedi eu chwalu a'u cario ymaith i adeiladu tai yn y gymydogaeth. Gresyn fod neb mor anwladgarol ac mor ddibarch i weddillion diwydrwydd a chrefydd ein hynafiaid fel ag i ddryllio a chario ymaith eu defnyddiau i adeiladu tai a chloddiau! Yr oedd hefyd yn ngodrau y Cilgwyn, sef yn nghae Ty'n Nant, Gromlech adfeiliedig arall, gyda thair o golofnau, ond eu bod wedi syrthio. Tua deg llath ar hugain i'r dwyrain yr oedd carnedd anferth, ac ychydig yn mhellach drachefn yr oedd cylch rheolaidd yn cael ei ffurfio gan bedair-ar-hugain o golofnau. Y rhai uched ydynt yr oll o'r gweddillion hynafol a adwaenir yn bresennol dan yr enw Cromlechau, cyn belled ag y gwyddom ni, o fewn ein terfynau.
O berthynas i oed a gwasanaeth yr adeiladau hyn, y mae hynafiaethwyr yn anghytuno; ond credir eu bod y pethau hynaf a welir yn ein gwlad, ac yn perthyn i gyfnod boreu iawn yn hanes ein cenedl. Myn rhai fod hiliogaeth Gomer wedi ymfudo i'r gwledydd hyn yn fuan ar ol y diluw, a'u bod yn arfer offrymu ar yr allorau hyn wenith, mêl, a llefrith, &c., gannoedd o flynyddau cyn dyddiau Moses. Modd bynag, credir yn lled gyffredinol eu bod mor hen a dyfodiad yr hiliogaeth Geltaidd i'r gwledydd lle y ceir hwynt. Coleddir amryw dybiau hefyd am eu hamcan a'u gwasanaeth. Creda rhai, megys Rowlands, Stuply, ac ereill, mai allorau Derwyddol oeddynt, ac yr offrymid arnynt, heblaw gwenith a mêl, &c., anifeiliaid, ac hyd yn nod fodau rhesymol, megys carcharorion rhyfel a drwgweithredwyr; a phan na cheid y cyfryw ebyrth na phetrusant offrymu y diniwaid. Tacitus, hanesydd Rhufeinig, a ddarlunia Dderwyddon Mon fel rhai a "gyfrifent yn addas i boethoffrymu ar eu hallorau waed caethion, ac i ymgynghori a'r duwiau trwy gysegr chwilio ymysgaroedd dynion." Dywed Carnhuanawc fod "ymddangosiadau cedyrn mai allorau oeddynt, a bod egwyddorion y grefydd Dderwyddol yn hanfodi yn ei grym pa le bynag y cyfodwyd ac yr arferwyd allorau o'r fath faintioli."
Ymddengys fod y dybiaeth uchod am ddefnydd y cromlechau yn myned yn fwy anmhoblogaidd yn yr oes bresennol, gan y dadleuir yn wresog gan amryw o hynafiaethwyr dysgedig mai bedd-adeiladau yn unig ydynt, a'u bod oll, yn eu sefyllfa gyntefig, yn orchuddiedig mewn carneddau o bridd a cheryg. O blaid y golygiad hwn dadleuir y buasai