Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

zel y cenadon Cristionogol cyntaf wedi eu cwbl ddinystrio pe bussent yo en hystyried fel yn perthyn i'r grefydd baganaidd, ond fod y ffaith iddynt eu harbed yn brawf eu bod yn eu hystyried yn gysegredig fel bedd-golofnau y meirw. Y mae yn anhawdd dirnad oddiwrth ffurf. grwm ambell i faen clawr pa fodd y gallesid eu defnyddio fel allorau. Hefyd, os allorau oeddynt yn perthyn i'r Derwyddou, pa fodd y rhoddir cyfrif am eu bodolaeth yn mysg tylwythau na wyddent ddim am Dderwyddiaeth? O'r tu arall, ar y dybiaeth mai bedd-adeiladau ydynt, y mae yn bur ryfedd, fel y sylwal y diweddar Baroh, J. Jones, Llanllyfni, er cymaint o gyfeiriadau a geir yn "Englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain" at feddrodau personau urddasol, na chaed un o honynt erioed o dan gromlech, er fod amryw o honynt yn agos iawn atynt. Hefyd, pa fodd y rhoddir cyfrif am fodolaeth rhai o'r adeiladau hyn ar greigleoedd, lle y buasai yn anhawdd, os nad yn anmbosibl, eu gorchuddio, yr hyn yn ddiau oedd yn ofynol er diogelwch y corff a gleddid danynt? Yr ddiweddaf, pa fodd y rhoddir cyfrif am yr holl dyllau crynion sydd dros arwyneb Cromlech Bachwen, os nad oeddynt wedi eu hamcanu fel llestri i ddal gwaed yr ebyrth?

"Ereill drachefn a farnent mai prif ddyben y gromlech, yr hon a safaf yn wastad yn nghanol y maen gylch neu yr orsedd, oedd bod yn lle cyfleus neu bulpud addas i'r prif-fardd i draddodi ei ddedfryd yn nghlyw y gwyddfodolion, o ba fath bynag y byddai y ddedfryd hono, ai ar bynciau gwladol a'i crefyddol, fel ag y dywed Cesar am Dderwyddon Gâl Tybir fod yr enwau a roddai y beirdd ar y cromlechau yn tueddu i gadarnhau hyn yn fawr, megys Maen Gorsedd, Maen Llog, a Maen Cetti. Ymddengys, ar y cyfan, mai dybenion penaf y gromlech oedd bod yn bulpud ac yn allor; ond ni ddywedir yma allor i aberthu dynion, gan fod hyny heb ei brofi gan neb eto."—Gwydd., Cyf. 2.

Gallesid ychwanegu tybiaethau yn ddiddiwedd bron, megys y rhai sydd yn eu hystyried fel "llys Ceridwen," lle caethiwid ymgeisydd am urddau, er mwyn ei gymhwyso at gyflawni dyledswyddau Derwyddiaeth. Barnai yr hynafiaethydd enwog o Lanllyfni mai yr ystyr yw "awgrymlech," ac mai arwyddlun neillduol ydoedd y gromlech neu yr "awgrymlech" o ryw syniad neu athrawiaeth. Yn wyneb yr opiniynau amrywiol uchod, ni fyddai ond mursendod ynom ni geisio penderfynu y pwnc; yn unig gallwn awgrymu y dybiaeth iddynt gael eu defnyddio fel bedd adeiladau i bersonau cyhoeddus ac urddasol, y rhai mewn amser a ddaethant i gael eu hystyried megys duwiau, ac er boddloni y rhai y cyfnewidiwyd eu beddau i fod yn allorau iddynt. Modd bynag am eu dyben a'u gwasanaeth, y mae eu bodolaeth yn Nyffryn Nantlle yn brawf fod y lle hwn wedi ei boblogi mewn cyfnod boreu yn hanes ein cenedl, a bod Derwyddiaeth wedi bod yn led flodeuog yma gynt, megys y gallwn yn hyderus dystiolaethu fod Cristionogaeth yn bresennol.

BEDDAU, CARNEDDAU &c.,

Yn mysg gweddillion hynafol y gymydogaeth gellir nodi y beddrodau