a'r carneddau. Yr ydym wedi crybwyll o'r blaen am y graig uchel sydd yn ffurfio pendist ardderchog Drws-y-coed ar y tu deheuol, yr hon a elwir y "Garn." Gelwir hi ar yr enw hwn, fel y tybir, am fod ar wastadedd ar ei phen ddwy garnedd anferth, yn nghydag olion adeiladau, celloedd, &c. Ychydig o flynyddoedd yn ol buwyd yn cloddio i un o'r carneddau hyn, pryd y deuwyd o hyd i gistfaen, yn cynnwys gweddillion marwol, wrth yr hyn y penderfynwyd fod rhai o wroniaid Eryri wedi eu claddu yno. Nid ydym yn gwybod fod unrhyw gyfeiriad yn yr hen gyfansoddiadau Cymreig at y beddrodau hyn, ac nis gallwn ddyfalu pwy a gladdwyd yno. Gelwir y rhan isaf o'r graig, yr hon sydd yn crogi uwchben y "Drws," yn "Gareg Meredydd;" ond ni allasom wybod dim yn ychwaneg am dano. Ychydig uwchlaw Drws-y-coed, mewn lle a elwir "Bwlch Culfin," yr oedd hen gladdfa, lle y dywedir i lawer o filwyr gorchfygedig gael eu claddu; oblegid cafwyd o bryd i bryd yn y fan hon lawer iawn o esgyrn a lludw. Gelwir y lle eto yn "Hen Fynwent." Yn ucheldir Nantlle, yn agos i'r Ty'n-nant, yr oedd carnedd enfawr yn agos i gylch derwyddol a chromlech, am y rhai y soniwyd o'r blaen. Wrth gloddio i'r garnedd hon cafwyd ysten bridd, yn llawn o ludw golosg, a'i gwyneb i waered. Barnai y diweddar Barch. J. Jones mai yma y claddwyd Mabon ab Madron, am yr hwn y crybwyllir yn "Englynion y Beddau" fod ei fedd yn uchelder Nant Llan, sef yr un a Nantlle fel y tybir. Yn ngodrau Cwm Cerwin hefyd yr oedd yn weledig gistfaen o faintioli mawr, a lluaws o feini ar eu penau o amgylch. Mae y lle hwn yn " ucheldir" yn ystlys y Mynydd-mawr, a gallai ateb yn gywir i'r desgrifiad a roddir o fedd Mabon ab Madron. Y mae amryw o leoedd o fewn terfynau ein testyn yn dwyn enwau y beddrodau, ond y rhai y mae annrhaith yr adeiladwyr wedi ein hysbeilio ohonynt. Gellir cyfeirio at Tal-y-garnedd, y Garnedd Wen, Cae-y-cyngor, y Gistfaen, &c. Ar dir y Plasnewydd, gerllaw Glynllifon, mewn lle a elwir Cae'rmaen-llwyd, y mae maen hir, yr hwn, fel y tybir, yw beddgolofn Gwaewyn Gurgoffri, un o arwyr y "Gododin." Crybwyllir yn ', Englynion y Beddau" am fedd Gwydion ab Don, ei fod yn Morfa Dinlle, o "dan fair dafeillion." Methasem a chael allan unrhyw draddodiad yn cyfeirio at y fan lle claddwyd y seryddwr enwog. Ychydig o'r neilldu i bentref Llandwrog dangosir bedd Gwenen, yn agos i amaethdy o'r un enw. Yn nghyfeiriad Clynnog y mae Bryn-y-beddau, Bryn-y-cyrff, Llyn-y-gelain, Cae-pen-deg-ar-ugain, lle y dywedir fod lluoedd o filwyr wedi eu claddu, megys y mae yr enwau yn arwyddo, ac megys y cafwyd profion amrywiol weithiau yn narganfyddiad esgyrn a gweddillion marwol. Yn agos i bentref Clynnog y mae pwynt o dir yn ymestyn allan ychydig i'r mor, ac ar flaen y pwynt hwn dangosir maen mawr a elwir Maen Dylan, lle tybir fod bedd Dylan, am yr hwn y crybwyllir yn "Englynion y Beddau," ei fod gerllaw Llan Feuno. Yn agos i'r lle hwn y mae Brynaera, yr un, fel y tybia un ysgrifenydd o Brynarien, wrth odrau yr hwn y claddwyd Tydain, Tad Awen. Gerllaw hen bont y Cim darfu i'r aradr, amryw flynyddau yn ol, ddyfod ar draws urn neu ystên, a'i gwyneb i waered, yr hon a gynnwysai ludw golosg.