Y rhai uchod ydynt yr oll o'r beddrodau o fewn terfynau ein testyn ag y mae genym ni unrhyw gydnabyddiaeth â hwy. Diamheu fod llawer o garneddau a bedd-golofnau wedi eu dinystrio wrth i'r tiroedd gael eu diwyllio, y rhai nid oes genym erbyn heddyw un fantais i wybod am eu bodolaeth.
Dichon y byddai ychydig sylwadau mewn cysylltiad â'r claddfeydd hynafol hyn o ddyddordeb i ryw ddarllenydd sydd o bosibl yn anghyfarwydd â'u hanes. Perthynant i gyfnod boreuol iawn yn hanes ein gwlad. Crybwylla Pennant fod yr arferiad o losgi cyrff yn mhlith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Y Derwyddon hefyd a ddilynent yr un arferiad, gan gladdu gyda'r cyrff bob peth o wasanaeth yn y byd hwn, oddiar y dybiaeth y byddai eu heisieu ganddynt yn y byd isod; am ba reswm y darganfyddir arfau, addurniadau, a phethau ereill, wedi eu claddu gyda hwynt o dan garneddau.
Mae y ffaith hon wedi rhoddi mantais i hynafiaethwyr i ddosbarthu yr hen feddau fel yn perthyn i dri cyfnod, sef y Cyfnod Cerygog, am fod yr arfau a geir ynddynt oll yn wneuthuredig o geryg callestr, cyn bod haiarn nag unrhyw fetal yn adnabyddus i'r trigolion. 2il. Y Cyfnod Efyddol, am fod yr arfau a'r addurniadau wedi eu gwneyd o'r defnydd hwnw. Yn y cyfnod hwn, yn benaf, yr arferid llosgi cyrff, a'u dodi mewn urnau neu ysteni pridd. 3ydd. Y Cyfnod Haiarnol, yr hwn a briodolir i'r Rhufeiniaid, am mai hwy oeddynt y rhai a ddygasant arfau o'r defnydd hwn gyntaf i'r wlad hon.
Y dyb yn y canol-oesoedd oedd, mai boneddigion neu ryfelwyr enwog a gleddid o dan garneddau. Yr oedd yn angenrheidiol wrth ryw arwyddion i ddynodi y fan y cleddid hwy cyn i'r mynwentydd plwyfol a'r claddfeydd cyhoeddus gael eu dwyn i arferiad. Mor barchus a chysegredig yr ystyrid hwynt, fel y byddai pwy bynag a elai heibio yn taflu ei faen i chwyddo y garnedd, oddiar barch i weddillion yr hwn a orweddai ynddi. Wedi dyfod Cristionogaeth i'r wlad hon, ac i leoedd pwrpasol gael eu neillddo i gladdu y meirw, aeth claddu mewn carneddau i gael edrych arno fel gweddillion paganaiaeth. Gwrthwynebid yr arferiad o gladdu mewn carneddau i'r fath raddau gan yr offeiriaid, nes yr aethant o'r diwedd yn nodau gwarthrudd ac nid anrhydedd, a llofruddion a drwgweithredwyr yn unig a gleddid ynddynt. Daeth dymuno "carn ar dy wyneb" y felldith fwyaf atgas allesid ddymuno i unrhyw elyn, a charnlleidr neu garnfrawdwr i ddynodi y rhywogaeth waethaf o'r cyfryw gymeriadau.
Mae yr hanesyn canlynol a gofnodir gan Carnhuanawe ac ereill yn profi fod yr arferiad o losgi y cyrff, a'u claddu mewn ysteni, mewn grym yn Nghymru cyn dyddiau y Rhufeiniaid. "Yn y flwyddyn O.C. 1813, tyddynwr yn byw ar lan afon Alaw yn Mon, wrth geisio ceryg at adeiladu a aeth i symud rhai a welai mewn crug yn agos iddo, ac a ddaeth at garnedd yn orchuddiedig a phridd; ac yn y garnedd cafodd gistfaen, ac yn y gistfaen gawg neu ystên bridd, a'u genau i waered ac yn llawn o ludw ac esgyrn golosg. Yr amgylchiad hwn a ddaeth i wybodaeth offeiriad y plwyf ac offeiriad arall, i'll dau yn hoffi ac yn adnabyddus