mae gwaith natur yn darfod a chelfyddyd yn dechreu. Cynnwysa yr amddiffynfa eang ac enwog hon amgaerau uchel a llydain o bridd a cheryg, y rhai a amgylchir mewn rhan gan ffos ddofn. Mae y ffurf yn hirgrwn, a mesura o'r dwyrain i'r gorllewin 480 o droedfeddi, ac o ogledd i ddehau 385 o droedfeddi. Yr oedd y "ddinas" hon yn bwynt lle cyfarfyddai dwy gadwyn amddiffynol, amryw o ba rai sydd yn weledig o ben y Dinlle. I'r dehau y mae Craig-y-dinas, Moel Glan-yr-afon, Carn-y-gewach, Carn Madryn, Carn Moel Bentyrch, Castell Gwgan, Caer Cricerth (cyn y castell), Pen-y-gaer (gerllaw Tre' Madog), Caer Collwyn, hyd arfordir Ardudwy. Ar y llinell hon y mae Tre'r Caerau, ar ben un o drumau uchel yr Eifl, yr hon yw y gadarnaf a'r oreu o ran cadwraeth o un dref na chaer Brydeinig yn Ngwynedd. I'r gogledd hefyd wele Dinas Dinoethwy, Dinas Dinorwig, Bryn-y-castrelau, Caer-careg-y-fran (gerllaw Cwmyglo), Braich y Dinas, Caer Llion, Caer Deganwy, &c. Perthynai i'r orsaf hon ar y Dinlle hefyd amryw o "dyrau gwylio," megys Dinas Dunodig, Hen Gastell, ar afon Carog, Dinas Ffranog, Dinas y Prif (yr hon a wasanaethai fel hafdy i'r prif lywodraethwr), Cae'r Ffridd, Bwlan, Bryn-y-gorseddau, lle hefyd y mae olion Derwyddol—y lleoedd hyn ydynt oll ar bwys y Dinlle, ac oeddynt yn ddiau mewn cymundeb â'r brif wersyllfa. Yr oedd ffordd Rufeinig i'r Dinas Dinlle o Gaer Segont, a elwid Sarn Helen, a'r lle mae y ffordd hon yn croesi afon y Foryd a elwir yn Rhyd-yr-equestri, a lle arall gerllaw a elwir Rhyd-y-pedestri, sef Rhyd y gwyr meirch a Rhyd y gwyr traed. Cafwyd hefyd amryw fathodau o gylch y lle hwn yn dwyn nodau yr ymherawdwyr Rhufeinig canlynol, nid amgen Gallienus, Tetricus (senior), Tetricus Cæsar, Carausius, ac Alectus.
Ar ortrai, yn neillduol ar dywydd hafaidd, gwelir murglawdd ychydig i'r gorllewin o Dinas Dinlle yn y mor, yr hwn yw gweddillion Tref Caer Arianrod. Arianrod ydoedd ferch i Gwydion ab Don, yr hwn y mae ei fedd ar Forfa Dinlle, gerllaw. Gellir casglu oddiwrth yr enw mai yn y lle hwn, yr hwn yn awr sydd yn orchuddiedig gan y mor, yr oedd tref neu etifeddiaeth Arianrod; ac, fel y sylwa Pennant, y mae "Caer" yn nglyn â'r enw yn rhoddi sail i dybied fod yno hefyd amddiffynfa, neu gaer filwrol. Amheuai y Parch. J. Jones, Periglor Llanllyfni, y traddodiad hwn yn gyfangwbl, gan dybied ei fod wedi ei sefydlu ar gamgymeriad am Dref-yr-anrheg, ar lan y Wyrfai. Modd bynag, gellir bod yn sicr fod yn y lle ryw fur neu glawdd, oblegid clywsom bersonau fuont yn ymweled â'r lle ar ortrai, yn sicrhau y gellir plymio amryw wrhydau i lawr yn syth wrth ochr y mur. Pa bryd y gorlifodd y mor dros y lle hwn y mae yn anmhosibl dyweyd dim yn benderfynol. Barna Mr. О. Williams o'r Waenfawr mai yn O.C. 331 y cymerodd hyny le, sef ar yr un llanw dychrynllyd ag a foddodd etifeddiaeth y Tyno Helyg, Morfa Rhianedd, Cantref-y-gwaelod, Caer Arianrod, &c. Ereill drachefn a dybient i hyn ddygwydd yn y seithfed ganrif; ond gan nad ydyw y naill na'r llall yn dwyn unrhyw brofion i attegu y tybiaethau hyn, nis gallwn ffurfio unrhyw ddyddiad i'r amgylchiad gydag unrhyw sicrwydd. Y mae llawer mabinogi ramantus a rhyfedd yn cael eu cysylltu â Gwydion ab