Don a'i ferch Arianrod, am y rhai y bydd genym efallai air yn ychwaneg i'w ddyweyd mewn lle arall.
Nı fyddai yn briodol ini adael y gweddillion hyn o adeiladau milwrol heb ychwanegu rhai nodiadau ar eu hoed a'u gwasanaeth. Ni chyfodid amddiffynfeydd o ddull y rhai hyn gan y Normaniaid na'r Norman-Sacsoniaid diweddar, ac nid ydys yn cael fod y Daniaid na'r Sacsoniaid cyntefig wedi ymsefydlu erioed yn y parthau hyn hyd yn nod ar adeg o ryfel; gan hyny bernir yn lled sicr eu bod yn perthyn i'r Brutaniaid neu y goresgynwyr Rhufeinig. Ar y dybiaeth y gallent fod wedi eu codi i ryw raddau gan gyn-frodorion y wlad, byddai yn anmhosibl dyfalu eu hoed; ond os Rhufeinig ydynt, fel y mae mwyaf o seiliau i gredu, dichon y teifl y ffeithiau canlynol rywfaint o oleuni gwanaidd ar achlysuron eu cyfodiad. Er i Julius Cæsar a'i luoedd lanio yn Brydain tua 55 C.C., ni ddaeth y Rhufeiniaid mor bell a gwlad y Gordofigion hyd ddyddiau Claudian, yn O.C. 50. Yn y flwyddyn hono crybwylla Tacitus, hanesydd Rhufeinig, i luoedd o honynt, o dan lywyddiaeth Ostorius Scapula, oresgyn gwlad Arfon hyd y "Cancarum Promontorium," sef Braich-y-pwll, terfyn eithaf Lleyn yn Aberdaron. Ni wnaed un ymgais ar ol yr ymgyrch hon at ffurfio trefedigaeth (colony) o Arfon, oblegid bu raid i'r lluoedd buddugoliaethus ymadael yn ebrwydd. Ond yn y fl. O.C. 58 daeth Suetonius Paulinus gyda'i luedd arfog, a chan ruthro allan o fforestydd anhygyrch y Wyddfa yn erbyn iseldiroedd Arfon, a ddilynodd olion gwaedlyd Ostorius. Y Gordofigion, gan dybied y diweddai yr ymgyrch hwn fel yr un blaenorol, ni chymerasant arfau i fyny yn erbyn Suetonius, eithr dewisasant dalu treth. Ond, ys gwir diareb Seneca, "Lle mae Rhufain yn gorchfygu mae yn cyfaneddu," felly yma, yr oedd ewinedd yr eryr wedi cael eu planu yn rhy ddwfn i'w ysgwyd ymaith. Ac er i gorff y fyddin ymadael, gadawsant ar eu hol warchodlu i gadw meddiant o'r hyn a enillasant. Prif wersyll y gwarchodlu hwn, fel y tybir, oedd Caer Seion (Caerynarfon). Y Gordofigion, wedi gweled hyn, ac nad oedd o'u blaen ond darostyngiad cenedlaethol, a ruthrasant ar y gwarchodlu Rhufeinig; a chan mor ddisymwth y gwnaed hyn, yn nghydag amlder yr ymosodwyr, lladdwyd y gwarchodlu heb adael cymaint ag un yn fyw—gweithred herfeiddiol a gostiodd yn ddrud i'r Gordofigion oedd hon; canys yn mhen ychydig ar ol y gyflafan hono dychwelodd llengoedd Rhufeinig o dan lywyddiaeth y galluog Julius Agricola, a chan gyhoeddi rhyfel anghymmodlawn yn erbyn y Gordofigion, a lwyddasant i'r fath raddau nes dileu y llwyth hwnw bron oddiar wyneb y ddaear.
Ein hamcan yn coffau yr amgylchiadau hyn yw rhoddi byr olwg ar y pethau a arweiniant i gyfodi, neu o leiaf i ailadeiladu, yr amddiffynfeydd hyn; oblegid yn ystod y rhuthrgyrchoedd hyn yr adeiladodd Suetonus ac Agricola orsafoedd milwrol yn mhob rhan o Arfon. Am Agricola, sylwa Carnhuanawc "iddo sefydlu caerau trwy y wlad gyda chymaint o fedrusrwydd na allai yr un cwr ddianc yn ddianafedig." Dyma, fel y tybiwn, ddechreuad goruchwyliaeth Rhufain dros y rhan hon o Wynedd. Gallasem gyfeirio y darllenydd at luaws o fanau yn amgylchoedd Caer