Seiont, lle yr adeil adwyd gorsafoedd milwrol, a lle y cloddiwyd, o bryd bryd, wmbredd o weddillion cyrff dynion: ond wrth ddilyn y rhai hyn byddai raid ini fyned i grwydro dros derfynau ein testyn i diroedd gwaharddedig.
Am wasanaeth yr amddiffynfeydd digon yw crybwyll eu bod, fel y mae eu henwau yn arwyddo, yn cael eu codi er diogelwch rhag ymosodiadau tramoriaid. Ni fwriedid iddynt fod yn drigleoedd parhaus; oblegid, gydag ychydig eithriadau, y maent yn amddifaid o gyfleusderau i gael dwfr. Cesglid y merched a'r plant a'r cyfoeth i'r lleoedd hyn o dan aden gwarchodlu, tra y byddai y dynion yn cymeryd y maes yn erbyn y gelynion. Ni pherthyn i'r adeiladau hyn unrhyw ffurf bennodol, gan eu bod bob amser yn cymeryd y ffurf hono a ymgymodai oreu â'r uchelfan lle yr adeiledid hwy. O ddyddiau y Rhufeiniaid, os nad yn gynt, hyd yr ymdrech olaf a wnaeth ein gwlad i adenill ei hanibyniaeth, y mae yr adeiladau hyn wedi cael eu defnyddio mewn ymdrechiadau gwaedlyd, a bydd dadleniad rhyfedd o'u hanes y dydd hwnw pan "ddatguddia'r ddaear ei gwaed, ac na chela mwyach ei lladdedigion."
Ni a ddygwn y bennod hon i derfyniad gyda chrybwylliad byr am y gweddillion a elwir Cyttiau'r Gwyddelod"—adeiladau crynion, gan mwyaf, yn mesur tua chwech neu wyth llath o drawsfesur, a'u muriau yn gyffredin tua phedair troedfedd o drwch. Ar wastad-dir bychan yn nhroed y Mynyddfawr, yn Drws-y-coed, gellir gweled nifer mawr o'r olion hyn, y rhai a amgylchid gan fur llydan. Yr oedd nifer mawr o honynt gynt yn nhir y Pant-du, gerllaw Penygroes, o'r lle y cariwyd cannoedd o lwythi er adeiladu tai yn Mhenygroes a'r amgylchoedd. Nid yw llawer o'r tai prydferth a breswylir genym yn awr ond "Cyttiau'r Gwyddelod" wedi eu had-drefnu! Paham y gelwir hwy ar yr enw hwn, byddai yn anhawdd penderfynu. Rhai a dybiart mai Gwyddeli, ereill mae Gwyrhela neu Gwyrhelod, oddiwrth y ffaith fod y trigolion pan yn byw ynddynt yn ymgynnal gan mwyaf ar helwriaeth. Ond y dyb fwyaf cyffredin yw mai Gwyddelod yw priodol ffurf yr enw, ac mai y Gwyddyl Ffichti, fel eu gelwir, a ddygodd y math yma o adeiladau i arferiad yn mysg y Cymru; oblegid goresgyniad y rhan hon o Wynedd yn dra mynych gan y giwed anghyweithas hono. Ceir adfeilion y cytiau hyn yn lluosog ar hyd yr ucheldiroedd; ac wrth eu chwalu cynnwysant yn gyffredin swm mawr o ludw. Nid oedd yn perthyn iddynt unrhyw ffenestr, ond ceid goleuni i mewn drwy y drws a thrwy dwll yn mhen uchaf yr adeilad, trwy yr hwn yr esgynai y mwg i fyny, ac y diangai ychydig o oleuni i waered. Cynheuid y tân ar ganol y llawr, o amgylch yr hwn y gorweddai y teulu y nos, heb ganddynt ond y dillad a wisgid ganddynt y dydd yn daenedig drostynt y nos. Crwyn anifeiliaid oedd eu gwisgoedd cyntefig, ac y mae Julius Cæsar yn eu cyhuddo o "redeg yn noethion." Yn mhen amser daethant yn alluog i wneyd math o frethyn bras, yn yr hwn yr ymwisgent y dydd ac yr ymgynhesent y nos. Yn y bwthynod bychain anghysurus hyn y cwrcydai hen gewri Cymreig ein mynyddoedd; ond gymaint y mae cysuron bywyd wedi eu hychwanegu erbyn heddyw! Y fath dawelwch sydd wedi teyrnasu dros