osiad gwych, yn cynnwys amrywiol ddarluniau mewn gwydr lliwiedig. Yn y pen gorllewinol ymgyfyd twr ysgwar, yn 75 troedfedd o uchder. Ar y muriau, yn neillduol tu fewn i'r gangell, y mae amryw o gof feini heirdd. O amgylch y gangell, ar gyfer yr allor, y mae 14 o hen eisteddleoedd mynachaidd, a llun gwyneb mynach wedi ei gerfio ar du blaen yr astell sydd rhwng pob eisteddle. Yn y mur, ar y tu dehau i'r allor y mae y noe yr hon a ddaliai y dwfr sanctaidd, a cherllaw iddi dri o dyllau addurnedig yn y mur, yn y rhai yr eisteddai yr offeiriaid gweinyddol. Yr oedd gynt, rhwng corff yr eglwys a'r gangell, lofft yn cael ei chynnal gan golofnau addurnol a rhwydwaith fwaog, yr hon, modd bynag, erbyn hyn sydd wedi ei thynu ymaith. Addurnir y muriau gan amryw gofddalenau caboledig, ac y mae yr oll yn gwasanaethu er gwneyd yr adeilad hon yn un o'r temlau helaethaf a godidocaf yn y Dywysogaeth.
Wrth ystlys ddeheuol yr eglwys y mae Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd. Y mae yr adeilad yma yn cael ei gysylltu â'r eglwys gan fynedfa dywell tua phum' llath o hyd, yn doedig a cheryg mawrion, ac o ymddangosiad llawer henach na'r eglwys na'r capel. Ymddengys mai yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol yr eglwys yr adeiladwyd y capel:— oblegid y mae Leland, with son am yr eglwys, yr hon oedd bron yn newydd yn ei amser ef, yn cyfeirio at yr hen eglwys adfeiliedig yn yr hon y gorweddai llwch y nawdd sant enwog. Yr oedd yn weledig yn nechreu y ganrif hon feddfaen mawr yn nghanol y capel, a elwid Bedd Beuno; ond tua yr adeg hono darfu i Arglwydd Newborough osod dynion ar waith i gloddio iddo, mewn gobaith dyfod o hyd i esgyrn y sant a rhyw greiriau cysegredig ereill. Drylliwyd y maen oedd arno i ryw raddau; ac y mae golygydd 'Cyff Beuno' yn crybwyll iddo ef weled rhanau o'r hen faen gan ryw grydd o'r pentref yn galan hogi! Yr oedd ffenestr fawr Capel Beuno yn addurnedig ar y cyntaf gan amrywiol ddarluniau o'r pethau hynottaf a gymerasant le yn mywyd y sant; yn awr, modd bynag, gwydr cyffredin sydd yno.
Ychydig i'r gorllewin y mae Ffynon Beuno, yr hon sydd wedi ei hamgylchu â mur pedair onglog, uwchlaw dwy lath o uchder. Amgylchir hi hefyd gan eisteddleoedd a grisiau, ond yn awr y mae y muriau yn adfeiliedig. Yn y ffynnon hon arferid trochi babanod, ac ereill ag y byddai rhyw nychdod neu afiechyd arnynt, ac wedi hyny gosodid hwy i orwedd dros nos ar fedd-faen Beuno yn ei gapel; oblegid yr oedd y werin gynt yn ddigon ofergoelus i gredu fod rhyw fath o gyfaredd yn perthyn i'r bedd, fel yr iachai pob clefyd wrth i'r dyoddefydd gael ei ddwyn i gyffyrddiad fel hyn âg ef. Y cyfryw oedd eu cred mewn arferiad ag a ystyrid yn awr yn ddigonol achos o drancedigaeth. O'r ffynnon hon y mae trigolion presennol pentref Clynnog yn cael dwfr i'w yfed, ac y mae o'r ansawdd iachusaf a phuraf.
Yn y festri berthynol i'r eglwys hon cedwir hen ddodrefnyn rhyfedd a elwir Cyff Beuno. Cist ydyw, wedi ei gwneyd o un darn o bren, a'i gafnio oddimewn, a rhan ei arwyneb wedi ei lifio allan i fod yn gauad arno. Y mae clasbiau cryfion o haiarn am y gwyneb a'r ochrau, a bollt o haiarn yn rhedeg trwy dair o hespenau, ar y rhai y mae tri o gloiau, a'r