Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agoriadau a gedwid gan yr offeiriad a'r ddau Warden, ac ni ellid ei hagor heb fod y tri yn bresennol. I'r hen gist hon y bwrid rhoddion gwirfoddol y bobl, y rhai a ddefnyddid at wasanaeth crefydd, ac i'w cyfranu yn mhlith y rhai mwyaf anghenus. Agorwyd y cyff hwn yn mis Rhagfyr, 1688; a chafwyd ynddo, mewn gwahanol fathiadau, y swm o £15 8s. 3c. Agorwyd ef y tro diweddaf trwy orchymyn Deon Bangor, a chafwyd ynddo benadur ac amryw ddarnau llai. Y tro hwn bu raid galw gwasanaeth gof i dori yr hesbenau, gan fod yr agoriadau wedi myned ar goll ac heb eu hadferyd. Bu yr hen arch yma yn cael ei gadw yn y gangell, lle yr offrymid rhoddion ynddo; ond y mae yn awr yn ddiddefnydd ond fel crair hynafol yn unig. Nid yw gwerin Clynnog mwyach yn credu yn nghyfaredd y cyff, na'r bedd ychwaith; ond achwynai ysgrifenydd yn chwerw mewn erthygl yn yr 'Arch. Camb.' na fuasai pobl Clynnog yn dangos mwy o barch i'w hynafiaeth, trwy ei symud o'r festri i'r lle y gellir ei weled, heb gymeryd y drafferth o'i lusgo o'i sefyllfa laith i oleuni, yr hyn nid yw yn bleserus i neb, nac yn fanteisiol i'r hen gyff ei hunan. Yr oedd gan y werin yma ddiareb, wedi ei sylfaenu ar gadernid yr hen gist hon, canys pan gynnygid at rywbeth anhawdd neu anmhosibl, dywedid, "Byddai cystal i chwi geisio tori Cyff Beuno."

Ni fyddai yn briodol ini adael yr eglwys hon heb grybwyll am "Tiboeth," neu "Dibeeth," sef hen lyfr mewn llawysgrifen a gedwid yn yr eglwys hon. Cynnwysai hanes eglwysig tra henafol, yn benaf, fe ddichon, mewn cysylltiad â'r sefydliad hwn ei hunan. Galwyd ef "Diboeth" am iddo gael ei ddiogelu rhag llosgi, er i'r eglwys losgi fwy nag unwaith. Yr oedd cloriau haiarn am dano, ac felly mae yn debyg y diogelwyd ef rhag llosgi. Gwelwyd y llyfr hwn gan Dr. Thomas Williams o Drefriw yn 1594; ar ol hyny ni chlybuwyd dim am dano; ond tybiwyd unwaith i Iolo Morganwg ddyfod o hyd iddo, yr hyn mae yn ddiau oedd gamgymeriad, pe amgen buasai rhyw gyfeiriad ato yn ei lawysgrifau, a'i gynnwysiad wedi ei gyhoeddi. Cyfrifir fod mynwent Clynnog yn filldir o amgylchedd. Y mae yn tyfu ynddi luaws o goed cedyrn, hynafol, goruwch brigau y rhai, modd bynag, y mae clochdy yr eglwys yn ymddyrchafu er eu gwaethaf. Y mae yma le tawel, neillduedig, fel gorphwysfa meirwon; ac O! y fath dorf sydd wedi eu cludo yma er dyddiau y sylfaenydd enwog Beuno, hyd ddyddiau Eben Vardd, pa rai oeddynt ill deuoedd yn teimlo serch ac ymlyniad angherddol at y llanerch neillduedig, a phob peth oedd yn dal cysylltiad ag addoliad o'r Gwir Dduw o fewn y deml henafol a pharchedig. Y mae hyd yn nod pen llwydni a dadfeiliad hen sefydliadau fel hyn yn hawlio iddynt ein parch a'n hedmygedd penaf.

BETTWS GWERNRHIW.

Yn agos i borthordy Glynllifon y mae adfeilion eglwys fechan a elwir Bettws Gwernrhiw, eto yn weledig. Nid ydym yn gwybod mwy am hanes yr eglwys yma nag a ellir ei gasglu oddiwrth yr enw.