Nid yw hynafiaethwyr, mae yn wir, yn cytuno am ystyr a tharddiad yr enw "Bettws." Deillia, medd rhai, o'r Saesneg, Bead House (Ty Gweddi). Ereill a dybiant mai gair Cymraeg am lawrbant, neu le isel rhwng dau fryn, ydyw. A'r mwyafrif fe ddichon a'i holrheiniant i Ys-bwyd-ty, sef y gair Cymraeg am Hospitium neu Hospital; ond cytunant oll i olrhain sefydliad yr eglwysydd a elwir Bettws i gyfnod y "Crwysgadau" neu Ryfeloedd y Groes. Daeth i'r wlad hon urdd fynachaidd o'r enw "Knight Hospittalus" yn amser y rhyfeloedd uchod, a dybenion blaenaf yr urdd hon oedd noddi y rhyfelwyr neu y pererinion ar eu mynediad neu eu dychweliad o'r Tir Sanctaidd.
Yn amser Hari yr 2il a Richard y laf ffurfiwyd cymdeithas a elwid "Cymdeithas Marchogion Ioan o Gaersalem," amcan proffesedig yr hon oedd ymgeleddu a chynnorthwyo y pererinion a ymwelent â'r Tir Sanctaidd. Ac mewn cysylltiad â'r amcan hwn codasant ar hyd y wlad amryw ysbytai ac addysgdai ar ddull eglwysydd, lle cyfrenid addysg ysbrydol, o dan lumanau y gwananol urddau; ac fe fernir yn gyffredinol fod yr eglwysydd a gyfenwir Ysbwyd-ti, neu Bettws, yn perthyn i'r cyfnod hwn, ac wedi eu sylfaenu gan y gymdeithas hono, o ba rai y mae Bettws Gwernrhiw, gerllaw Glynllifon, yn un. Ymddengys y gair Bettws gyntaf yn amser trethiad y bywiolaethau drwy orchymyn y Pab Nicolas, tua'r flwyddyn 1292. Yr oedd yr yspytwyr yn arfer gwisgo hugan neu wisg wen, gyda chroes goch ar ei chefn a'i gwyneb. Tybir i eglwys y Bettws Gwernrhiw gael ei defnyddio fel capel teuluaidd perthynol i deulu y Wynniaid o'r Glynllifon. Gelwir y lle weithiau yn Ysbyty y Plas Newydd, am yr hwn y ceir y crybwylliad canlynol yn y 'Brython' am 1861:—" Thomas Wynn, ab Thomas Wynn, ab Syr Ricy Person Gwyn, ab Robert ab Robyn, ab Meredydd. Bu y Person Gwyn yn Abad Aberconwy, ac yn ei amser ef y troes y ffydd ac y colles ef ei le ac a briododd."
CAPEL LLEUAR.
Yr oedd hyd yn ddiweddar adfeilion eglwys neu gapel teuluaidd ar dir Lleuar a elwid yn Capel Lleuar. Safai ar lechwedd-dir uwchlaw yr afon mewn cae a elwir Cae-y-capel. Bu yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â theulu Lleuar, ac yr oedd degwm yr etifeddiaeth yn cael ei gyflwyno at ddwyn traul y gwasanaeth ynddi. Deallwn i ymgais gael ei wneyd yn ddiweddar gan ficer Clynnog am gael y degwm at wasanaeth eglwys y plwyf; ond trwy ymyriad y perchenog, yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, ni lwyddwyd i'w gael, o ba herwydd y mae y ddwy fferam a elwir Lleuar Fawr a Lleuar Bach yn rhydd oddiwrtho.
Y rhai a enwyd ydynt yr oll o'r eglwysydd o fewn terfynau ein testyn, y rhai a haeddant sylw neillduol ar gyfrif eu hynafiaeth. Ond cyn gadael y pwnc hwn, efallai y byddai yn briodol ini grybwyll am yr elusenau a roddwyd at wahanol achosion mewn cysylltiad â'r eglwysydd hyn. Mewn adroddiad a anfonwyd i'r Senedd yn 1786, mynegid fod Jonathan Edwards, D.D., wedi gadael £10, a'r Parah. Philip Twisleton £20 i'w rhanu i dlodion plwyf Clynnog. Ac yn ol cofnodiad yn llyfr y plwyf,