Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddengys fod yr arian wedi eu rhoddi allan ar log i George Twisleton, Ysw., dan ammod ysgrif, dyddiedig Mai 4ydd, 1716, yr hon ysgrif a ddodwyd yn nghadwraeth y Parch. Edmund Price, ficer Clynnog, ac a aeth ar goll, fel nad oes mwyach ddim o'i hanes ar gael, a'r tlodion wedi eu hymddifadu o bob budd oddiwrthi.

Yn ei ewyllys dyddiedig yn y flwyddyn 1820, gadawodd David Ellis Nanney, Ysw., y swm o £30 i ficer Clynnog a'i olynwyr, fel y gallent eu rhoddi allan ar log, yr hwn oedd i gael ei ranu rhwng y tlodion mwyaf haeddiannol perthynol i'r plwyf uchod ar Ddydd Gwyl Domos bob blwyddyn. Y swm hwn a dalwyd i'r ficer, ac yntau a'u rhoddes dan amodrwym i blwyfolion Clynnag am log o 30s., yr hyn a renir gan y ficer bob blwyddyn mewn symiau bychan o 6c. ac uchod, yn ol trefniad yr ewyllys.

Mewn tir-lyfr perthynol i blwyf Llanllyfni y mae cofnodiad, dyddiedig yn 1776, yn rhoi ar ddeall ddarfod i un Richard Evans adael 10s. yn y flwyddyn i dlodion y plwyf yma. Yr arian a ddeillient oddiwrth dyddyn a elwid y Felin Geryg; ac yr oeddynt i gael eu rhanu ar yr 21ain o Ragfyr, gan y person a'r wardeniaid. Deallwn fod y tlodion wedi cael eu hysbeilio o'r elusen hon eto, gan na chawsant eu rhanu bellach er's amryw flynyddoedd. Daeth y tyddyn yn ddiweddar i feddiant Mr. Owen Rogers, Talysarn; ond nid ydym yn gwybod a ydyw yr awdurdod sydd yn trosgwlyddo yr arian i'r tlodion wedi ei ymddiried i'w ofal. Os ydynt nid oes ynom unrhyw amheuasth na fydd i'r boneddwr uchod gyflawni y rhan yma o ewyllys. y gwladgarwr ffyddlawn Richard Evans, trwy adferyd y 10s. blynyddol i dlodion y plwyf.

PENNOD III.
Parhad Hynafiaethau.

Yn y bennod ganlynol bwriadwn ymweled â'r trigfanau mwyaf hynafol, mewn cysylltiad â pha rai y cawn fantais i osod gerbron y darllenydd grybwyllion am y personau enwocaf a fu yn trigiannu ynddynt. Nid ydym yn proffesu rhoddi hanes cyflawn; nid yw ein defnyddiau na'n gofod yn caniatau unrhyw ymgais at hyny, dim ond yn unig roddi ychydig grybwyllion am y pethau mwyaf neillduol mewn cysylltiad â hwy.

BALADEULYN.

Y mae amryw ystyriaethau yn peri i ni gyfeirio yn flaenaf at y "Baladeulyn." Dywedir mai ystyr Bala yw ymestyniad allan, neu ymarllwysiad, ac felly y mae yn hollol ddesgrifiadol o'r lle hwn. Wrth yr enw hwn yr adnabyddir y gwddf-dir çul sydd yn gwasgaru y ddau lyn oddiwrth eu gilydd, trwy yr hwn y mae y naill yn arllwys ei ddyfroedd i'r llall. Oddiar y gwddf-dir yma ceir golwg fanteisiol ar y nant, yn