Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neillduol i'r cyfeiriad dwyreiniol. Dyma y llecyn a ddewisodd Wilson, yr arlunydd enwog, i dynu ei ddarlun o'r Wyddfa—y cywiraf a'r ardderchocaf, o bosibl, a dynwyd eto o "frenines y mynyddoedd." Ceir seilau i dybied fod y llain yma o dir rhwng y Baladeulyn a Ffridd y Bala wedi eu diwyllio i raddau yn gynar, yn flaenorol i unrhyw le arall o fewn y dyffryn. Ymddengys oddiwrth yr awdurdodau a ddyfynir gan Syr John Wynne, yn ei "History of the Gwydir Family," fod y lle hwn yn meddiant y tywysogion Cymreig, o leiaf, er amser Owain Gwynedd, tua'r flwyddyn 1137, a'u bod wedi adeiladu palas neu lys yma, yn yr hwn y preswylient yn achlysurol. Yr oedd y tywysogion Cymreig yn hoff iawn o hela, ac yr oedd Fforestydd Breninol y Wyddfa yn rhoddi mantais neillduol iddynt er boddhau y dueddfryd hono; ac yn ychwanegol at eu teitlau ereill, gelwid tywysogion Gwynedd yn "Arglwyddi y Wyddfa." Gan fod amgylchoedd godrau y Wyddfa fel hyn yn perthyn i'r Goron, nid oedd caniatâd i neb hela ynddynt heb drwydded oddiwrth y brenin neu y tywysog. Crybwylla Pennant iddo weled amryw o'r trwyddedau hyn, dyddiedig o'r flwyddyn 1552 hyd 1561. Crybwyllir mewn barddoniaeth o waith "Morys Dwyfach" am wyth o foneddigion o Leyn a anfonwyd yn garcharorion i Lundain am hela yn y coedwigoedd breninol he drwydded.

Yn misoedd yr haf byddai y tywysogion yn cymeryd cylchdeithiau helwriaethol, ac yr oedd y gyfraith dan Hywel Dda yn darparu ar gyfer traul y tywysog, ei gymdeithion, ei feirch, a'i gŵn. Ac yn ystod y cylchdeithiau hyn yr oedd y llys yn symudol, ac yr oedd ganddynt amryw balasau yn amgylchedd y Wyddfa, lle trigent yn achlysurol, ac y cynnelid y llys, megys "Llys Llewelyn," yn Aber-garth-gelyn; "Llys Dinorwig," yn Nant Padarn; a'r "Baladeulyn," yn Nant Nantlle. Yn flaenorol i'r flwyddyn 1626, yr oedd y dyffrynoedd hyn yn llochesau bleiddiaid, ceirw gwylltion, a llwynogod, y rhai a barent flinder ac annhraith tost ar y tiroedd diwylliedig a'r ffrwythydd cyfagos. Ar orchfygiad Llewelyn aeth holl diroedd, breintiau, a llysoedd y tywysogion yn ysbail i Coron Lloegr.

Yn ngwanwyn y flwyddyn 1283, yn ol y Parch. J. Jones, person Llanllyfni (o ysgrifau yr hwn yr ydym yn rhwym o wneyd defnydd helaeth mewn cysylltiad â'r lle yma), anrhydeddwyd y Baladeulyn âg ymweliad breninol o eiddo gorchfygwr Cymru, Iorwerth y Cyntaf. Yn y flwyddyn hono (1284 medd rhai), cymerodd Iorwerth daith fuddugoliaethus o Gastell Rhuddlan, trwy Gaerynarfon; Nant Nantlle, Eifionydd, ac i Nefyn, lle cynnaliwyd gwledd fawreddog i goffâu am lwyr orchfygiad y galluoedd Cymreig. Ar ol gadael Caerynarfon ar y daith hon ymddengys iddo osod ei babell i lawr, a gorphwyso mewn lle a elwir ganddo yn Nanardarchlen. "Feste me ipso apud nenardarchlen." Rhoddwyd yr enw "Nant y Dywarchllyn" i'r lle hwn, tua chan' mlynedd cyn hyn, gan Giraldus Cambrensis, pan oedd ar ei daith yn nghwmni Baldwin, Archesgob Caergaint, yn pregethu Rhyfeloedd y Groes, gan annog ein cydwladwyr i ymarfogi er amddiffyn y Tir Sanctaidd. Crybwylla Roscoe fod unigrwydd rhamantus y lle hwn wedi swyno y Brenin Iorwerth i'r