ines, ac yn erfyn ar gael eu gosod mewn rhyw raglawiaeth nes i'w hachos gael ei benderfynu o flaen ynadon llys; ond tra thebygol na chaniatawyd iddynt eu dymuniadau. Tybir mai yn Ty'n y Nant yr oedd Tudur ab Engan yn byw yn ystod arhosiad Iorwerth yn y Baladeulyn; ac mae yn deg i ni grybwyll fod rhai yn dal allan mai yn y Baladeulyn y ganwyd Tywysog Gymru, ac iddo gael ei gymeryd yn ddirgel i'r Castell yn Nghaerynarfon. Oddiar ba seiliau y dychymygir hyn nis gallwn roddi un hysbysrwydd. Pa le bynag y cafodd ei eni, (nid yw yn hawdd penderfynu yr amgylchiadau yn nghlyn â'i enedigaeth, ac y mae cryn amheuaeth o berthynas iddynt), ymddengys oddiwrth amser ei enedigaeth nas gall y Baladeulyn honi yr anrhydedd iddo ei hun.
Gyda golwg ar sefyllfa y llys Tywysogol, dywed Pennant, yr amser y bu ef yma, nad oedd unrhyw adgof am ei sefyllfa; ond trwy ymchwiliad dyfal y gallesid, hwyrach, ddyfod o hyd i olion ohono; ond llais pob traddodiad sydd yn y gymydogaeth yn bresennol ydyw, mai yr hen adeilad a safai y tu cefn i Nantlle, ac a elwid "Y Gegin" ydoedd, yr hwn a chwalwyd tua phymtheng mlynedd yn ol. Yn ol pob tystiolaeth, yr oedd yr hen adeilad hwnw yn dwyn arwyddion o hynafiaeth mawr o ran ei gynllun a'i adeiladaeth; a gresyn o'r mwyaf na fuasai yn cael ei gadw a'i ymledu, yn neillduol os yw y ddybiaeth ddiweddaf yn gywir, mai efe oedd y "Llys" Tywysogol. Tuedda Mr. Lloyd Jones, perchenog a thrigiannydd presennol Baladeulyn i dybied mai i fyny ar lethr y Ty'n y Nant yr oedd y Llys, gan fod yn y lle hwnw olion a sylfeini adeiladau o faintioli dirfawr, y rhai yn awr a orchuddir gan rwbel chwarelau Penyrorsedd.
GLYNLLIFON.
Gan ein bod yn cyfarfod â changenau o deulu hynafol Glynllifon wedi ymledu i bob trigfan bwysig o'r bron o fewn terfynau ein testyn, bydd yn fwy manteisiol i ni gyfeirio atynt ar ol ymweled yn flaenaf a'u trigfan gyntefig ar lan y Llifon. Yr afon hon, yr hon sydd yn tarddu ar lethr y Cilcgwyn, ar y tu gogleddol, sydd yn rhedeg i lawr i gwm dwfn a chuddiedig. Tua diwedd yr wythfed ganrif diangodd gŵr oddiar ffordd ymgyrch y Sacsoniaid yn y Gogledd i chwilio am ddiogelfa yn Arfon, ac a adeiladodd ei dy mewn dyffryn llawn o ddyrysgoed, o fewn tref y Dinlle, ac o dan nawdd y tywysogion Cymreig. Gelwid y gŵr hwn Cilmin Droed-ddu. Yr oedd efe yn gefnder i Rodri Fawr, Brenin Cymru oll, ac yn nai i Merfyn Frych, Brenin neu Dywysog Manaw (Isle of Man). Y brenin a'i gwnaeth yn arglwydd Uwch Gwyrfai, ac yr oedd ei diroedd yn cyraedd o'r Eifl hyd i Gaerynarfon. Dyrchafwyd ef hefyd i fod yn brif ynad Gwynedd, rhagorfraint a arhosodd yn etifeddol yn y teulu. Yr oedd Cilmin yn deilliaw o lwythau Gwynedd, yn fab i Cadrod ap Elidr ap Sandde ap Alser ap Tegid ap Gwyarap Dwywg ap Llowarch Hen, Arglwydd Penllyn, ap Elidr Lyddanwyn ap Meirchion ap Gorwst Ledlwm ap Cenau ap Coel Godebog, Brenin Ynys Brydain; ac "Empriwr o'r Vrytain Vawr oedd y Goel hwn." Ei arfbais oedd