Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bennodwyd yn berson Llandwrog a Llanengan, yn Lleyn, ac a gafodd haner plwyf Llandinam yn Arwystley, heblaw Clynnog Fawr yn Arfon, a Chlynnog Fechan, sef Llangeinwen a Llangaffo, yn ngwmwd Menai. Bu farw yn y flwyddyn 1537, mewn llawn feddiant o'r eglwysi hyn; ac heb wneuthur nemawr orchest heblaw hyny." Y cyfryw yw tystiolaeth y diweddar Barch. J. Jones, Llanllyfni, o berthynas i ddysgeidiaeth a thrachwant anniwalladwy y dynion hyn!

Y brodyr uchod oedd y rhai cyntaf i gymeryd enw eu preswylfod i fod yn gyfenwad i'r teulu, a than yr enw Glynn, neu Glynne, y ceir eu hanes wedi ymganghenu yn Arfon, Mon, Llundain, a manau ereill. Tua'r adeg yma hefyd cymerodd lluaws o foneddigion Cymru i fyny yr un arferiad. Ceir y sylw canlynol gan Gwilym Lleyn gyda golwg ar yr amgylchiad a arweiniodd i'r arferiad yma. Mewn cysylltiad âg un o ddisgynyddion Collwyn ab Fango, sef Syr John Bodfal, o Bodfal, y dywed, "Tua'r amser hwn cymerodd lluaws o foneddigion Cymru gyfenw byr oddiwrth leoedd eu preswylfod, yn lle dilyn llinach hir o enwau cyntaf gydag ab neu ap rhyngddynt. Gwnaed hyn pan oedd Rowland Lee, Esgob Lichfield, Llywydd y Cyffiniau, yn amser Harri yr 8fed, yn eistedd yn un o'r cyrtiau ar ryw achos Cymreig, ac yn flinedig, oblegid yr holl apiau wrth alw y rheithwyr, a gyfarwyddodd fod i'r rhestr gael ei galw with yr enw diweddaf, neu le eu preswylfod, yr hyn a fabwysiadodd boneddigion Cymru yn gyffredinol; felly ni a gawn o hyn allan John. Bodfal, o Bodfal; John Bodwrda, o Bodwrda; Richard Madryn, o Fadryn; John Glyn, o'r Glyn, neu Glinllifon; Thomas Mostyn, o Fostyn; Robert Carreg, o Carreg." Daeth y cyfenw presennol Wyon i mewn i deulu Glynllifon yn lle yr enw Glynn, trwy i Thomas Wynn, o'r Bodruan, yr hwn a wnaed yn farwnig Hyd 25, 1742, briodi Frances, ferch ac etifeddes i John Glynn, ysw., o'r Glynllifon, trwy yr hyn hefyd yr unwyd etifeddiaethau eang Bodruan a Glynllifon a'u gilydd. Dilynwyd Syr Thomas gan ei fab, Syr John Wynn, yr hwn a briododd ferch ac etifeddes i John Wynne, ysw., o Melai, yn sir Ddinbych, a Maenan, yn sir Gaerynarfon, trwy yr hyn yr ychwanegwyd yr etifeddiaethau hyny drachefn at yr eiddo Glynllifon. Dilynwyd Syr John gan Syr Thomas Wynne, A.S. dros sir Gaerynarfon, a milwriad ar wirfoddoliaid Caerynarfon, yr hwn a grewyd yn bendefig o deyrnas y Werddon, wrth y cyfenwad o BARWN NEWBOROUGH, Gorph. 23, 1776. Priododd Syr Thomas yn gyntaf a Catherine, ferch hynaf i John, Iarll Egremont, ac wedi ei marwolaeth, priododd yn ail & Maria Stella Patronilla, ferch i Lorenzo Chiappini; ac o'r briodas hon y deilliodd Thomas John, yr ail Farwn, A.S. dros sir Gaerynarfon, ac a fu farw heb briodi Tach. 15, 1832, ac a ddilynwyd yn ei deitlau a'i etifeddiaethau gan ei frawd, Spencer Bulkeley Wynn, y pendefig presennol, yr hwn a anwyd Mai 23, 1803, ac a briododd Mai 10fed, 1834, a Frances Maria, merch hynaf y Parch. Walter de Winton, o Gastell y Gelli, yn sir Frycheiniog, a chanddynt hiliogaeth, sef yr Anrhydeddus Thomas John Wynn, a anwyd Rhag. 31, 1840, a lluaws ereill. Mewn perthynas i fam y pendefig urddasol presenol, sef Maria Stella Patronilla, ceir y sylw canlynol gan Gwilym