April, 1742, aged 77, after having served in his youth full days & volunteer in all the Irish wars." Brawd i Richard Garnons oedd John Vaughan Garnons, person Llanddeiniolen, tua'r flwyddyn 1782. Yr oedd eraill o aelodau y teulu hwn yn byw yn Penybryn, megis Evan Garnons, yr hwn a briododd ferch Owen Jones, Dolyfelin, a'i dad Paul Garnons, yr hwn a briododd ferch Evan Gruffudd, person Penymorfa, ac a fuont hefyd yn cyfaneddu yn y Pant-du. Er's ugeiniau o flynyddoedd bellach nid oes neb o'u hiliogaeth yn cyfaneddu yma.
LLEUAR, NEU LLEUFER MAWR.
Saif y lle hwn ar lethrhyfryd ar y tu deheuol i afon Llyfnwy, ychydig islaw pentref Llanllyfni; ac yr oedd yr etifeddiaeth ar y cyntaf yn ffurfio rhan o dref y Bennarth. Derbyniodd yr enw Lleuar neu Lleufer oddiwrth neu barch i goffadwriaeth Lleufer Mawr, sef yr un a Lles ab Coel, y brenin Cristionogol cyntaf fu yn Mrydain. Y mae yr un arwyddlun ag a wisgid yn arfbais Lles ab Coel i'w weled hefyd yn arfbeisiau teulu Lleuar, sef "Eryr deuben du, a'i adenydd ar led." Ceir yr un arwyddlun hefyd wedi ei gerfio ar amryw o hen ddodrefni ac eisteddleoedd Eglwys Clynnog Fawr, a gellir bod bron yn benderfynol i'r naill a'r llall eu cymeryd oddiwrth Lleufer Mawr, y brenin Cristionogol.
Ymsefydlodd cangen o hiliogaeth Cilmin Droed-ddu yn Lleuar tua'r flwyddyn 1588, trwy i William Glynn, neu yn hytrach William Wynn Glynn, briodi aeres Lleuar, sef Lowri Gwynion, yr hon oedd yn ferch i John ab Robert, ab John, ab Meredydd o Fachwen, Clynnog, disgynydd o deulu pendefigaidd Tegwared y Bais Wen. Yr oedd William W. Glynn yn fab i William Glynn, Sergeant at Arms to Henry VIII., mab i Robert ab Meredydd ab Hwlcyn Llwyd, o'r Glynllifen, ab Tudur Goch y Nantlle. Arfau William Glynn ab William Glynn oedd Pais Cilmin Droedddu, a'i sin pâl oedd Pais Owen Gwynedd yn ol Lewis Dwnn.
I William W. Glynn a'i wraig Lowri Gwynion y ganwyd William Glynn, yr hwn a briododd Margaret, ferch ac etifeddes Humphrey ab Meredydd, tua'r flwyddyn 1609. O'r briodas hon eto ganwyd William Glynn, a briododd Jane Brynkir; ac iddynt y ganwyd etifedd, William Glynn, a fu farw yn faban; a disgynodd yr etifeddiaeth i'w chwaer Mary, yr hon a briododd yr Uwch Filwriad George Twistlelton, o Barrow Hall, sir Gaerlleon, yn goffadwriaeth am yr hwn y mae careg uwch ben drws y ty presennol yn Lleuar Fawr yn coffau am ei farwolaeth.
Er mwyn egluro y cysylltiad newydd hwn efallai y dylem gyfeirio y darllenydd yn ol at adeg y rhyfel cartrefol, yn amser Charles y 1af ac Oliver Cromwell. Pan oedd y rhyfel bron ar ben, a chestyll Arfon yn meddiant milwyr y senedd, darfu i Syr John Owen, o'r Cleneney, yn Eifionydd, gasglu yn nghyd fyddin o wirfoddolwyr yn enw y Brenin, ac ymosod ar warchodlu Castell Caerynarfon, y rhai o ddiffyg nerth digonol a orchfygwyd, a syrthiodd y castell i ddwylaw Syr John a'i wirfoddolwyr. Yn y cyfamser anfonwyd i Gaerlleon am gymhorth, ac anfonwyd byddin i Gaerynarfon i adgyfnerthu y gwarchodlu, o dan lywyddiaeth