Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am dlodi ac aflerwch y tai a'r adeiladau. Tueddai Eben Fardd i dybied mai Sarah, Countess of Radnor, a merch i Syr John Bodfel, o Bodfel, oedd y foneddiges y cyfeiria y traddodiad ati, ac iddi trwy briodi symud i fyw i Loegr, neu ar y Cyfandir, ac oblegid hyny iddi esgeuluso ei hetifeddiaethau gartref.

John Solomon Williams, ysw., y perchenog presennol sydd fab ac olynydd i Solomon Williams, fab John Williams, fab Solomon Williams, fab William Thomas, fab Thomas Williams, fab William Thomas, a anwyd yn 1635 neu 1639. Ganwyd John Solomon Williams yn Mrynaera, Awst 19, 1836. Priododd â Mary, merch i Mr. Williams, Castellior, Mon. Heblaw tueddiadau caruaidd a haelfrydig fel boneddwr, y mae Mr. Williams yn meddu ar raddau helaeth o wybodaeth a chwaeth lenyddol, ac wedi astudio rhai canghenau, yn neillduol cerddoriaeth yn lled berffaith. Miss Williams hefyd, ei ferch, sydd yn feddiannol ar gynneddfau addawol iawn; oblegid er nad yw ond ieuanc gwyddom iddi gario ymaith lawryf buddugoliaeth mewn Eisteddfod Gadeiriol; a'r fath foddhad a gynnyrchai ei datganiad o ryw ddernyn cerddorol, ar yr un amgylchiad, fel yr anrhydeddwyd hi gan yr Eisteddfod a'r ffugenw soniarus. "Myfanwy'r Glyn."

BRYN CYNAN.

Yn agos i Bont Lyfni, ar y tu dwyreiniol i'r afon, y mae bryn bychan coediog, a ffermdy yn dwyn yr enw uchod. Tybir i'r lle gael ei alw ar yr enw hwn oherwydd rhyw gysylltiad fu rhwng Cynan, neu yn hytrach Gruffudd ab Cynan â'r lle. Ganwyd Gruffudd yn y Werddon, lle ffoasai ei dad, Cynan ab Iago, am nawdd at Awloedd, brenin y Werddon. Tra bu yno priododd Cynan ferch Awloedd, ac o'r briodas hon y deilliodd Gruffudd ab Cynan, Tywysog Gwynedd. Yr oedd gorsedd Gwynedd ar y pryd yr oedd Gruffudd yn fachgen yn cael ei thrawsfeddiannu gan Trahaiarn ab Caradog, yr hwn ei hunan oedd wedi ymgymysgu a'r gwaed breninol trwy briodi Nest, ferch Gruffudd ab Llywelyn. Wedi i Gruffudd ab Cynan dyfu i fyny, a pherffeithio ei addysg yn y Werddon, ac ar yr un pryd yn ymwybodol o'i hawl i orsedd Gwynedd, efe a ddaeth drosodd i Fon, yn cael ei ddilyn gan fyntai o Wyddelod. Ymostyngodd Mon i gydnabod ei awdurdod. Wedi hyny efe a groesodd afon y Menai, ac a wersyllodd yn Arfon; ac o bosibl mai yn Bryn Cynan yr oedd ei bencadlys y pryd hwn. Modd bynag, Trahaiarn, yn hysbys o'i symudiadau, a drefnodd ei fyddin i'w wrthsefyll; ac wedi brwydr waedlyd a orfuodd, fel y bu gorfod ar Gruffudd encilio dros y Fenai i Fon yn ol. Cymerodd y frwydr yma le mewn man a elwir Bron yr Erw, gerllaw Pryscyni, yn mhlwf Clynnog.

Y mae yn briodol i ni grybwyll am y gwahanol dybiau o berthynas i sefyllfa Bron yr Erw. Y mwyafrif, ac yn eu plith y mae Carnhuanawc, Lewis, Catherall, Williams, a'i lleolant yn agos i Harlech, yn Meirionydd; ond tybiwn fod Mr. E. Thomas (Eben Fardd) mewn ysgrif o'i eiddo yn yr Arch. Cambrensis, wedi profi i foddlonrwydd mai Bron yr