Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

35

Llwyd, sirydd dros swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1668, yn fab i Dafydd Llwyd, o'r Bodfan, ab' William , ab Hywel, ab Robert, ab Dafydd, ab Llywelyn Llwyd , ab Llywelyn, ab Bleddyn , ab Phillip. Chwaer i William Llwyd a briododd John Bodfel, o'r Carnguwch, ac

felly aeth y Bodfan yn eiddo i'w fab, Peter Bodfel, yr hwn a roddodd gyfran o'i dir i'w fab , Llwyd Bodfel, tad William Bodfel, o Fadryn, a'r

gyfran arall i'w ferch, yr hon a briododd Hugh Hughes, o'r Pemprys, Lleyn ; a'i fab yntau, sef Peter Hughes, oedd tad Hugh Hughes, y sirydd am 1762, a gorhendaid i'r diweddar Dafydd Jones , ysw ., Cefn y coed . Yr oedd Dafydd Jones yn fab ieuangaf i Dafydd Jones, Cefn y coed, a fu farwyn Ionawr 16eg, 1794, o'i wraig Margaret, merch Peter Hughes, o'r Pembrys, yr hon a fu farw Hydref 18, 1828. Brawd i Dafydd Jones a elwid William a ddaliai swydd Major yn y 52ain gatrawd, ac a ladd wyd wrth warchae ar Badagos yn 1812, pan nad oedd ond 35 mlwydd

oed. Y mae gweddw y diweddar Dafydd Jones, ysw ., yn byw yn Cefn y coed , i'r hon y mae amryw o ferched . Delir y Bodfan fel tenant

i Mrs. Jones o flwyddyn i flwyddyn gan Robert Jones, mab i'r diweddar

Robert Jones, o Fryn -y-gwydion, ac wedi hyny o'r Hendy, Clynnog Fawr. Nid ydym yn gwybod pa bryd, na chan bwy yr adeiladwyd palasdy presennol y Bodfan. Tybiwn oddiwrth ei adeiladwaith y gall fod wedi ei adeiladu rhywbryd yn flaenorol i amser William Llwyd , yn y

flwyddyn 1668. PENNARTH

NEU PENNARDD .

Ymddengys fod y lle hwn yn meddu enwogrwydd gynt, oblegid gwneir amryw gyfeiriadau ato yn yr hen ysgrifau Cymreig . “ Mae hynafiaeth ardderchog yr hen Faenor glodfawr hon , " medd E. Fardd yn “ Nghyff Beuno,” yn cyraedd mor bell yn ol ag i ymgolli o'n golwg yn niwl y

Mabinogion. Ond diflanodd bri y bendefigaeth yma er's llawer oes, nid oes ond ychydig o son am dani ar gof a chadw er amser Iorwerth y urddasol yn byw yn y chweched Ymd ngys fod yma bend ganrif o'r enw Maeldaf Hen , am yr hwn y sonir yn y rhagymadrodd i Freiniau Gwyr Arfon , y rhai a ganiatawyd gan y Tywysog Rhun ab Maelgwyn Gwynedd . Mae afon yn rhedeg i'r mor trwy gwr Maenor

3ydd.

Pennarth , aelwir Aberdusoch ; ac y mae cainc o'r afon hon yn rhedeg iddi o ucheldir Clynnog, a elwir Afon Rhyd y Beirion, yr hon y tybia Eben Fardd sydd yr un ag afon Menwedus, yn agos i'r hon y lladdwyd Elider . Mwyn Fawr, ac i ddial ġwaed yr hwn y daeth y tywysogion gogleddol, ac a losgasant Arfon yn y 6ed ganrrif. Ar lan yr afon yma hefyd y claddwyd Cynon ab Clydno Eiddin , am yr hwn y crybwyllir yn Englynion y Beddau . (Gwel Cyff Beuno, tudal 67). BACHWEN .

Saif y lle hwn ar lan y mor , ychydig islaw pentref Clynnog . Y mae bach , " yr hwn sydd yn deilliaw o " mach ," yn gyfystyr a dôl. “ Back