Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COCH Y BIG.

Cyfystyr Coch y Big a'r Big Goch, medd Ab Hu; "ond fod un yn ol y Wentwysaeg oedd yn dafodiaeth yr ardal; a'r llall yn ol y Wyndodaeg, sydd mewn arfer yn awr." Daeth uchelwr o'r enw Dafydd Roberts, o Aberdyfi, Meirion, a'i wraig Cathrine, i fyw i Lanllyfni, ac oddiyno symudasant i Leuar Bach, lle ganwyd mab iddynt o'r enw John Pughe, gwr o gymeriad uchel am ei dduwioldeb, a fu farw Hyd. 1802. Ei wraig oedd Jane, merch John Pritchard o Ty'n-y-coed; ac o'r briodas hon y deilliodd David Roberts Pughe, Ysw., diweddar a'r Frondirion, yr hwn a briododd Elizabeth, merch William Owen o'r Chwaen Wen, Mon, yr hon sydd wedi ei oroesi, ac eto yn byw yn y Frondirion. Meibion i David Roberts Pughe ydynt y Dr. John Pughe, Ysw., F.R.C.S. (Ioan ab Hu Feddyg), a'r diweddar enwog acanwyl David William Pughe, Ysw., M.R.C.S. (D. ab Hu Feddyg) ill dau yn feddygon a llenorion enwog, ac awdwyr adnabyddus, yn enwedig yr olaf.

Anne, merch ieuengaf John Pughe, a briododd y Cadben Lewis Owen, o Leuar Bach, a fu farw Mai 11eg, 1870. Yr oedd y Cadben Lewis Owen wedi rhoddi heibio fordwyo, ac yn amaethu Lleuar Bach: yr oedd yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid yn Mrynaerau. Yr oedd yn wr o foesau prydferth a duwioldeb diamheuol. Dilynwyd ef hefyd yn yr un swydd gan ei fab ieuengaf, William, ond bu yntau farw yn mlodau ei ddyddiau. Dywedir fod y gwr ieuanc yn meddu llawer o gymhwysderau diacon; ac fod yr eglwys yn Mrynaerau yn galaru ei cholled yn ddirfawr am dano. Y mae ei fam weddw yn aros gyda Lewis ei mab hynaf, eto yn Lleuar Bach.

Y BERTH DDU.

Saif y lle hwn ar fron brydferth yn agos i'r afon Aberdusoch, a'i berchenog yw John S. H. Evans, presennol o'r Rhyl, masnachwr cyfoethog, haelionus, blaenor galluog a ffyddlawn yn nghyfundeb y Bedyddwyr. Y mae efe yn fab i'r diweddar David Evans, Ysw., Berth Ddu, yr hwn a ddeilliai o hiliogaeth Bodychain; oblegid crybwyllir i un o Evansiaid y Berth Ddu briodi ǎ Mary Ellis, merch i David Ellis, Ysw., o Fodychain, yn Eifionydd. Bu i David Evans bedwar o feibion, un o ba rai a fu farw yn fachgen ieuanc. Un arall, sef David, a ddygwyd i fyny yn fferyllydd, ac sydd yn aros yn bresennol yn Llundain. Y trydydd, sef Hugh, sydd yn byw yn bresennol yn y Berth Ddu.

GWERNOER.

Saif y lle hwn ar lan y llyn isaf, Nantlle, ac y mae ei berchenog yn deilliaw, fel y rhan fwyaf o hen deuluoedd y cymydogaethau hyn, o linach Cilmin Droed-ddu o'r Glynllifon. Rhoddir yr ach fel y canlyn gan y diweddar Barch. J. Jones, Llanllyfni:—" Morgenau ab Gwrydr ab Dyfnant ab Iddon ab Iddig ab Llywarch ab Llion ab Cilmin Droed-ddu