Am y ffon dywed Mr. Griffith fod ganddo seiliau i gredu iddi gael ei hanfon o'r America gan fab i Goronwy, a'i bod felly, yn ol pob tebyg, yn perthyn yn wreiddiol i'r Bardd Du ei hunan. Y mae yn ffon o ddraenen ddu, brydferth geinciog, ac addurnedig. Cynnwysa yr addurniadau hyn amgorn arian hardd a berthynai yn wreiddiol i Lady Pugh, Coetmor. Hawdd genym gredu y buasai llawer yn barod i roddi pris mawr am dani, nid yn unig ar gyfrif ei phrydferthwch, ond hefyd ar gyfrif y cysylltiad sydd ynddi a phrif-fardd ei oes. Cedwir hi yn ofalus fel etifeddiaeth deuluol; ond caiff yr ymwelydd, efallai, gymaint o bleser wrth weled y creiriau hyn ag a gaiff Mr. Griffith wrth eu dangos. I niy maent yn meddu ar ddyddordeb tra neillduol.
PENNOD IV.
Parhad Hynafiaethau.
Yn y bennod hon ymdrechwn roddi i'r darllenydd fyr grybwyllion am rai o'r cymeriadau mwyaf cyhoeddus fuont yn dwyn perthynas â'r dyffryn hwn. Er fod pob talent o'r bron wedi ymddangos yma, a rhywrai rhagorol yn mhob cangen o lenyddiaeth wedi bod yn preswylio yma, eto ofer fyddai i ni geisio perswadio y darllenydd mai yma yr ymddysgleiriodd y talentau mwyaf, er y gellir, efallai, honi hyny mewn cysylltiad âg ychydig iawn o niferi. Ni fyddwn yn amcanu at ddim mwy na chrybwyllion, hyd yn oed am y rhai ag y gellir cael defnyddiau hanes. Digon i gyfateb i'n hamgylchiadau ni yn bresennol yw bras-grybwyllion yn unig.
GWILYM DDU O ARFON oedd fardd enwog yn ei flodau o'r flwyddyn 1280 i 1320. Yr oedd yn byw mewn lle a elwir Tyddyn Tudur, yn awr o fewn parc y Glynllifon. Gelwid adfeilion ei gartref yn "Furiau Gwilym Ddu, ac yr oeddent yn weledig hyd tua 30 mlynedd yn ol, pryd y chwalwyd hwy, ac y mae coed yn awr yn tyfu dros y lle yr oedd llawr ty y bardd; a dywedwyd wrthym fod pren gwyrddlas, gwahanol ei rywogaeth i'r rhelyw yn tyfu yn y fan lle 'roedd aelwyd y bardd unwaith. Argraffwyd tair o ganeuon Gwilym Ddu yn y Myv. Arch., dwy o ba rai a gyfansoddwyd i Syr Gruffydd Llwyd, o Dregarnedd Mon, a Llys Dinorwig, yn Arfon. Cafodd Gruffydd Llwyd ei greu yn farwn, oherwydd mai efe oedd y cyntaf i gludo i Iorwerth y 1af y newydd eni mab iddo yn Nghastell Caerynarfon. Rhoddwyd iddo hefyd Lys Dinorwig,