yr hwn a berthynai i'r tywysogion Cymreig, ac yn yr hwn y preswylient dros gyfnod yn amser hela fforestydd y Wyddfa. Yn mhen talm o amser cododd Gruffydd wrthryfel yn erbyn y Goron, a gasglodd yn nghyd fyddin o wirfoddolwyr, ac a ddystrywiodd lawer o fanau a berthynent i'r Saeson trwy bob rhan o Wynedd; ond yn y diwedd efe a ddaliwyd ac a garcharwyd. Ar yr achlysur hwn y cyfansoddodd Gwilym Ddu ei "Awdl y Misoedd," yr hon a gynnwysa tua 62 o linellau, ac enw yr awdwr gyda'i ddyddiad (1322) wrthi.
RHYS PENNARDD.—Yr oedd y bardd hwn yn ei flodeu o'r flwyddyn 1460 i 1490. Dywed E. Thomas nad yw yn eglur wrth y cofnodiad a geir am dano pa un ai o Glynnog ai o Gonwy yr oedd; ond y dyb gryfaf ydyw mai o'r lle blaenaf. Y mae amryw o'i gyfansoddiadau ar gael mewn llawysgrifen. Claddwyd ef yn Llandrillo, yn Edeyrnion, Meirionydd.
HYWEL GETHIN oedd fardd ac achyddwr galluog, yn byw rhwng y flwyddyn 1570 a'r flwyddyn 1600. Pwy oedd Hywel Gethin o ran teulu, a pha le yn Nghlynnog yr oedd yn byw, nid wyf yn gwybod; nid ellais ddeall fod un cof na thraddodiad am dano wedi aros yn y plwyf, nid oes neb yn y gymydogaeth y bum i yn ymddyddan a hwynt am dano erioed wedi clywed son am ei enw, er nad oes fawr dros ddau gant o flynyddoedd er pan oedd yn ei flodau; clywais amryw yn crybwyll am un Gutto Gethin oedd yn byw braidd gymaint a hyny o amser yn ol, mi feddyliwn, oblegid dywedir mai saer maen digymar am gryfder ei waith oedd, ac mai efe a adeiladodd y New Inn a Hafod y Wern, yn Nghlynnog, dau hen dy, y gellid dyddio eu hadeiladaeth rywbryd gan belled yn ol ag amser Oliver Cromwell, o leiaf, ac yn darawiadol o debyg yn eu cynllun a'u gweithred. Sonir hyd heddyw am "Bin Gutto Gethin," yr hwn oedd yn ddiarebol o ddiogel, trwy ei fod yn cael ei osod yn yr adeilad a'r pen ffurfaf i fewn. Crybwylla Owen Gruffydd yn ei achau fod un Japheth Gethin (yr hwn, fel y gellid casglu, oedd yn gydoeswr âg) yn disgyn o genedl Rhys Gethin; pa un a oedd y Cethiniaid hyn i gyd wedi deillio oddiwrth yr hen wron gerwin hwnw nis gwn, a bydd arnaf flys garw gwybod tipyn o edryd hen fechgyn fel hyn, oeddynt yn eu dydd yn medru cyflawni tipyn o orchest mewn llenyddiaeth neu law-weithyddiaeth. Dyma fel yr ysgrifenai Mr. Thomas mewn nodiad cysylltiedig â chywydd o eiddo y bardd Hywel Gethin a adysgrifenyd ganddo i'r 'Brython' am 1860.
MICHAEL PRISIART.—Bardd ieuanc athrylithgar a anwyd yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1710. Enw ei dad oedd Risiart Prisiart, o Lanllyfni. Gwehydd oedd Michael wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn ddysgybl barddonel i Owen Gruffudd, o Lanystumdwy, ar ol yr hwn hefyd y cyfansoddodd gywydd marwnad rhagorol, ac a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth yn y 'Gwladgarwr.' Yn yr un cyhoeddiad hefyd ymddangosodd ei Gywydd i'r Wyddfa, yn nghyda lluaws o gyfansoddiadau ereill o'i eiddo.
Dygwyddodd i'r bardd ar ryw achlysur neu gilydd fod mewn swyddfa cyfreithiwr yn Beaumaris, ac yno cyfarfyddodd â'i hen gymydog, Ffowc