Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, yr Udganwr, yr hwn a annerchodd Michael fel hyn:—"Michael, pa le mae'r meichie?" "Y mae wrth law draw'n y dre'," ebai Michael yn ddiymaros. Pwy ddamweiniodd fod yn clywed yr atebiad parod, ond W. Bulkeley, ysw., o'r Bryn du, Mon, yr hwn oedd ei hun yn fardd ac yn achleswr beirdd a barddoniaeth; a chan ei fod yn foneddwr cyfoethog a haelfrydig, efe a gymerodd Michael ato i'r Bryn du yn arddwr iddo. Yn fuan ar ol iddo symud yno daeth angau, yr hwn ni eiriach na bardd na garddwr heibio i'r ardd, ac a dorodd y planigyn tyner hwn i lawr, a Michael druan a fu farw, a chladdwyd ef yn mynwent sech Llanfechell, lle nad oes ond y dywarchen las yn unig yn gorchuddio ei fedd. Cymerodd hyn le yn 1731, cyn iddo gyraedd ei 22ain mlwydd oed. Rhyfedd na buasai y boneddwr hael a charedig yn cyfodi gwyddfa iddo, ac y mae yn anhawdd genym gredu pe claddesid ef yn ei lan enedigol y gadawsai chwarelwyr llenorol Nantlle feddrod un o'u bechgyn athrylithgar heb gof-golofn deilwng o'i enwogrwydd.

ANGHARAD JAMES.—Yr oedd yn byw yn y Gelliffrydau, yn agos i'r Baladeulyn tua 200 mlynedd yn ol ŵr a wraig o'r enw James Davies ac Angharad Humphreys, ac iddynt yr oedd merch a elwid yn ol y drefn Gymreig Angharad James, yr hon oedd yn feddiannol ar raddau uchel o athrylith a dysgeidiaeth. Yr oedd hefyd yn meddu tuedd gref at farddddoniaeth; ac ymddengys iddi gyfansoddi llyfr o farddoniaeth ei hunan, yr hwn ni chyhoeddwyd erioed mor bell ag y deallasom. Nyni a ddyfynwn yr hanes desgrifiadol a ganlyn am y foneddiges awdurol hon o 'Gofiant y Parch. J. Jones, yr hwn oedd yn ddisgynydd o'r un teulu a hithau. Fel hyn y dywed y Parch. O. Thomas:—"Cyfrifid Angharad James yn wraig nodedig yn ei dydd, yn anghyffredin felly o feddwl cryf ac athrylithgar, yn hynod o wrol a phenderfynol, ac wedi cael dysgeidiaeth uchel iawn. Nid ydym yn gwybod yn mha le y derbyniodd ei haddysg; ond yr oedd ei rhieni mewn sefyllfa uchel y byd, ac o bosibl, eu hunain yn gweled gwerth dysgeidiaeth, ac yn ofalus am roddi i'w merch y manteision gereu i hyny. Yr oedd Angharad James, pa fodd bynag, wedi esgyn i'r hyn oedd yn mhell o fod yn gyffredin, nid yn unig yn y dyddiau hyny, ond eto hefyd. Yr oedd yn gwbl hyddysg yn yr iaith Lladin, yn gyfarwydd iawn yn nghyfreithiau y deyrnas, ac yn cael ei chydnabod yn un o wybodaeth dra helaeth. Yr oedd rhai o'i llyfrau Lladin ar gael yn mhlith ei disgynyddion hyd yn ddiweddar, a dichen fod rhai ohonynt eto. Yr oedd hefyd yn dra hoff o farddoniaeth, ac yn arfer cyfansoddi llawer ei hun. Yr oedd llyfr helaeth o'i barddoniaeth ar gael hyd o fewn llai na haner can' mlynedd yn ol yn ei llawysgrifen hi ei hunan. Bu yn menthyg yn nwylaw y diweddar Mr. G. Williams, Braich Talog, Llandegai, (Gutyn Peris) am dymmor, yr hwn a ddywedai ei fod yn hollol hysbys i'r hen feirdd ac y gelwid ef y 'Llyfr Coch,' am mai ag inc coch yr ysgrifenasid ef. Yr oedd gan Angharad hefyd delyn, ac yr oedd yn dra hoff o chwareu arni. Cyn myned i orphwys y nos ar yr awr bennodol, byddai raid i'r holl deulu, y gweision a'r morwynion, ddyfod yn nghyd i ddawnsio am ryw gymaint o amser, tra byddai eu meistres awdurdodol yn chwareu ar y delyn." Dylid