enwog fel ei daid, fel y prawf ei englynion i Ellis Wynn, awdwr 'Bardd Cwsg,' y rhai a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a'i gyfieithiad o 'Reol Buchedd Sanctaidd.' Yr oeddynt hefyd yn gyffelyb i'w taid yn ysgolheigion o radd uchel, yr hwn, fel y dywedir, ydoedd yn hyddysg mewn wyth o wahanol ieithoedd. Bu E. Prys, ficer Clynnog farw yn y flwyddyn 1718, ac y mae careg bedd Ffowe Prys i'w gweled yn llawr Eglwys Llanllyfni.
PARCH. RICHARD NANNEY.—Yr oedd y gwr enwog hwn yn berson Llanaelhaiarn, ac yn ficer Clynnog o gylch y flwyddyn 1723. Ganwyd ef yn Cefndeuddwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, Meirionydd. Ei rieni oeddynt Robert Nanney o Cefndeuddwr, a Martha, merch Richard ab Edward o Nanhoron, yn Lleyn. Wedi iddo briodi ag Elizabeth, merch hynaf William Wynn o'r Wern, cymerodd lease ar Elernion, Llanaelhaiarn, ac yno y bu fyw yn fawr ei barch am haner can mlynedd. "Offeiriad hynod am ei dduwioldeb, ac am ei lwyr ymroddiad i'w swydd gysegredig oedd y Parch. Richard Nanney: dywedir y byddai eglwys Clynnog Fawr yn orlawn yn ei amser ef, a'r gynnulleidfa fel tyrfa yn cadw gwyl mewn llais can a moliant, ac adsain defosiwn yn llenwi yr holl le." (E. Fardd yn 'Nghyff Beuno'.) Ceir y desgrfiad canlynol o'r gwr parchedig yma gan awdwr 'Drych yr Amseroedd:'—" Cyfrifid ef fel pregethwr yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr urddasol: nid oedd gofalon bydol yn cael nemawr o le ar ei feddyliau; oblegid nid adwaenai ei anifeiliaid ei hun, ond yr un fyddai efe yn ei farchogaeth. Ond O! er mor foesol a phrydferth oedd ei ymddygiad yn ystod ei fywyd, eto nid oedd pelydr yr efengyl, na'r anadl oddiwrth y pedwar gwynt, yn effeithioli ei weinidogaeth i gyrhaedd calonau ei wrandawyr yr holl amser hyn; ond yn niwedd ei ddyddiau cododd goleuni yn yr hwyr, daeth arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth, a bu fel diferiad diliau mel i lawer o eneidiau trallodedig. Ymgasglai lluaws mawr o amryw blwyfydd i wrando arno, nes y byddai eglwys fawr Clynnog yn haner llawn: byddai raid ei gynnorthwyo i'r pulpud rai gweithiau o achos ei henaint a'i lesgedd. Yn ol pregethu eisteddai i lawr yn y pulpud i aros i'r gynnulleidfa ganu salm neu hymn, a byddai yn fynych dywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi calonau llawer o'r gwrandawyr, nes y byddai y deml fawr yn adseinio yn beraidd o haleluiah i Dduw a'r Oen. Bu farw y gwr parchedig hwn yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau-dros 80 oed."
ROBERT ROBERTS, CLYNNOG. —Tua chanol y ganrif o'r blaen yr oedd yn byw yn Ffridd Baladeulyn wr a gwraig grefyddol o'r enwau Robert Thomas a Chathrine Jones; a bu iddynt ddau o feibion, y rhai a ddaethant yn mhen amser yn weinidogion enwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Yr hynaf o honynt, John, a anwyd yn 1752; a phan yn fachgen oedd o dymer addfwyn, lonydd, a myfyrgar; ac yn mlynyddoedd aeddfedaf ei fywyd oedd yn bregethwr melus ac efengylaidd. Yr ieuengaf o honynt, â'r hwn y mae a fynom yn fwyaf neillduol, a anwyd yn 1762, oedd o dymer fywiog, chwareus, a thanbaid; ac mewn amser dilynol a ddaeth yn un o'r gweinidogion mwyaf tanllyd ac effeithiol a gyfododd erioed, o bosibl, yn Ngwynedd. Bu John dros ryw ysbaid