Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a amser yn cadw ysgol yn Nghlynog, ond symudodd i Langwm, yn sir Feirionydd, lle diweddodd ei yrfa mewn tangnefedd, Tach. 3ydd, 1834, yn 82 mlwydd oed, Efe oedd tad yr athrylithgar ac anffodus Michael Roberts, Pwllheli. Yr oedd iddo ferch hefyd yn meddu ar raddau o athrylith, a dywedir mai hi a gyfansoddodd yr emyn prydferth sydd yn dechreu â'r llinell hon:—-"Mi gysgaf hun yn dawel," &c. Parhaodd y cysylltiad rhwng Robert Roberts a'r ardal hon dros y rhan fwyaf o'i oes. Cychwynodd ei yrfa fel chwarelwr yn y gloddfa; ond pan ymunodd â chrefydd, yn unarbymtheg oed, newidodd ei alwedigaeth, ac a aethi wasanaethu fel gwas ar fferm. Mewn cysylltiad a'r gwaith hwn cyflogodd i fyned i wasanaeth rhieni y Parch. R. Jones, Coed Caed Du, lle bu mab y Parch. R. Jones (y Wern ar ol hyny) yn gymhorth iddo addysgu ei hunan. Bu am ychydig fisoedd wedi hyny gydag Evan Richardson, yn Nghaerynarfon; a dyna gymaint o fanteision addysg a gafodd; er hyny, trwy ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd, meistrolodd yr iaith Saesenaeg i'r fath raddau nes bod yn alluog i ddefnyddio yr awduron Seisnig ar faterion duwinyddol. Yr oedd ei ymddangosiad personol yn wael, ffurf ei gorph yn grwca ac eiddil, yr hyn a achlysurwyd trwy oerfel neu ysigdod. Er yr anfanteision hyn yr oedd rhyw nerth a dylanwad rhyfedd yn canlyn ei weinidogaeth. Treuliai ysbaid o amser cyn pregethu mewn ymdrech gyda Duw, ac ymollyngai dan angerddoldeb ei deimlad i wylo yn hidl. Disgynai ei ymadroddion fel taranfolltau ar glustiau ei wrandawyr, a byddai dyspeidiau disymwth ac annisgwyliadwy yn nghanol ffrydlef danllyd o hyawdledd, yn peri effeithiau annesgrifiadwy. A chan y gall y darllenydd weled desgrifiad cyflawnach o hono, gyda chyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn ei hanes, wedi ei ysgrifenu gan ei nai, ni fydd ini yma ychwanegu. Cyfansoddodd Dewi Wyn farwnad doddedig i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn byw y rhan fwyaf a'r olaf o'i oes wrth y Capel Uchaf a bu farw yn 1802 yn 40 mlwydd oed. Y mae yr englyn canlynol o waith Eben Fardd yn gerfiedig ar ei fedd yn mynwent Eglwys Beuno Sant':

"Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol
Fu'r gwr mewn dylanwad;
Seraph o'r nef yn siarad
Oedd ei lun yn ngwydd ei wlad."

Y PARCH. WILLIAM ROBERTS ydoedd weinidog nid anenwog yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Ganwyd ef yn yr Hendre Bach, yn agos i Glynnog, lle bu ei deulu yn trigianu er's mwy na 300 mlynedd. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Bedyddwyr, ac yn bobl hynod o grefyddol. Eithr eu mab, pan oedd tuag ugain mlwydd oed, a ymunodd â'r Methodistiaid yn y Capel Uchaf. Efe, oddiar anogaeth a gafodd gan Mr. Charles o'r Bala, a ddechreuodd gadw Ysgol Sabbothol gyntaf yn y lle. Lle hefyd y traddododd ei bregeth gyntaf mewn wylnos un o deulu y Ty'nllwyn. Yr oedd hyny yn y flwyddyn 1804. Ordeiniwyd ef i gyfawn waith y weinidogaeth yn 1819. Ni chafodd William Roberts,