mwy na'r mwyafrif yn ei oes, ond ychydig o fanteision addysg foreuol. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth i deithio drwy Dde a Gogledd, a threfydd Lloegr. Yr oedd yn araf a phwyllog yn ei ymddiddanion, yn sych ac ymresymiadol wrth draddodi ei bregethau, ac yn aml iawn yn faith—yn afresymol felly—am ba herwydd ni bu erioed yn boblogaidd ond gydag ychydig o'r dosbarth mwyaf darllengar. Yr oedd yn gyfarwydd iawn mewn hanesiaeth ysgrythyrol ac eglwysig; yn gartrefol yn mhrophwydoliaethau Daniel ac Ioan, a gelwid ef yn fynych yr "Hen Brophwyd o'r Hendre Bach." Yr oedd hefyd yn cael ei gydnabod yn wr o brofiad a synwyr cryf mewn cynadleddau, ac yn sefyll yn uchel mewn parch gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Ei brif lafur fel awdwr oedd ei 'Draethawd ar yr Ordinhad o Fedydd.' Cyhoeddodd hefyd ddetholion o weiehiau y Parch. J. A. James, o Birmingham, ar yr Ysgol Sabbothol. Aeth yn gwbl ddall yn mlynyddoedd diweddaf ei oes: ond parhai i fyned oddiamgylch felly i bregethu. Yr oedd yn wr o gorpholaeth cadarn, ond lled anniben, ac o feddwl cawraidd, ond ei fod yn ddiwres. Bu farw yn nhrigfod ei hynafiaid Hyd. 14eg, 1857, yn 84 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Capel Uchaf, lle gwelir ar ei fedd englyn o waith ei gymydog athrylithgar Eben Fardd.
PARCH. JOHN JONES, TALYSARN. — Y mae cymaint wedi cael ei ysgrifenu am y gwr mawr hwn, yn neillduol yn ei 'Gofiant' anghydmarol gan y Parch. O. Thomas, Liverpool, fel mai mursendod ynom ni fyddai gwneyd un ymgais i gyfeirio at brif amgylchiadau ei fywyd, na phrif nodweddau ei gymeriad. Gellir meddwl ei fod wedi cael cyfiawnder yn y cofiannau, y marwnadau, yr anthemau, yn mha rai y mae prif dalentau Cymru am y cyntaf i dalu gwarogaeth i fawredd a gwerth y cymeriad a ddarlunir ganddynt. Ganwyd ef yn Tanycastell, Dolyddelen, Mawrth 17eg, 1796. Olrheiniai ei achau o dy ei dad i Hedd Molwynog, sylfaenydd un o'r Pymtheg Llwyth; ac o du ei fam i Einion Efell, Arglwydd Cynllaeth. Ymunodd â chrefydd pan yn 22 mlwydd oed, a phregethodd yn gyhoeddus gyntaf yn y Garnedd, yn agos i Dolyddelen, yn 1820, ac ordeiniwyd ef yn y Bala yn 1829. Wedi pregethu am yr ysbaid o 33 o flynyddoedd, bu farw ar y dydd Sabboth, Awst 17eg, 1857. Claddwyd ef y Gwener canlynol, a chynwysai ei angladd tua 70 o weinidogion a phregethwyr, tua 100 o swyddogion eglwysig, 200 o gantorion, 40 o gerbydau, a thua 5000 o bobl ar draed, yr angladd lluosocaf a welwyd erioed o bosibl yn Nyffryn Nantlle. Parhaodd cysylltiad y Parch. John Jones a'r gymydogaeth hon o ddechreu y flwyddyn 1823 hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai y flwyddyn hono priododd â Frances. Edwards, merch Thomas Edwards, Taldrwst, yr hon sydd wedi ei oroesi. Bu Mrs. Jones yn "ymgeledd gymwys" iddo yn mhob ystyr; cymerai ofal masnach a dygiad i fyny deulu lluosog ar ei hysgwyddau ei hunan; a thrwy fendith Duw ar ei llafur hi yn benaf, dygasant i fyny deulu lluosog yn anrhydeddus, a llwyddasant i grynhoi swm mawr o gyfoeth, nes y daeth y teulu hwn gyda'r mwyaf dylanwadol yn y Nant. Yn fuan ar ol iddynt briodi, perchenog y chwarel a adeiladodd dy a shop iddynt yn ymyl y capel. Gerllaw y ty yr oedd gallt goediog, yn yr hon y gellid gweled "pregethwr y bobl" yn cerdded ol a blaen, a'i ddwylaw ar ei