gefn o dan ei gõt. Dyma y fan lle y cenhedlwyd y meddylddrychau, ac y lluniwyd y broddegau o dan y rhai yr ysgydwid cynnulleidfaoedd mawrion Cymru fel coedwig o dan yr awel. Buom yn teimlo arswyd cysegredig wrth sangu y llanerch hon, fel pe buasai yr ysbryd mawr fu yn cymdeithasu & Duw yn y fan yma wedi gadael ei ddelw ar y creigiau o amgylch. Yn awr y mae yr hen gapel a'r hen dy wedi eu chwalu, a malurion y cloddfeydd wedi gorchuddio y fan bron yn hollol. Bernir i gysylltiadau agosach y Parch. John Jones a'r byd, yn y rhan olaf o'i oes, trwy iddo ymgymeryd â goruchwyliaeth chwarel, anmharu ar ddysgleirdeb ei weinidogaeth, yr hyn a barodd ofid i'r wlad, a'r hyn, pan ddeallodd yntau, yr ymryddhaodd oddiwrtho. Adeiladodd fasnachdy helaeth wrth y ffordd sydd yn arwain o Benygroes i Nantlle; ac yno diweddodd ei oes ar yr 17eg o Awst, 1857. Mae y bobl hynaf yma yn caru son am dano, yn caru adrodd ei sylwadau mewn cyfeillachau, a'i weddiau ar amgylchiadau neillduol. Bywyd ydoedd yr eiddo ef a adawodd y fath argraff ar holl gylch ei ddylanwad, nad oes ond y dydd mawr a'i dengys. Y mae yr had a hauwyd ganddo yn dwyn ffrwyth yn nghrefyddolder y wlad oddiamgylch. Ni fu neb mwy, os mor boblogaidd ag efe, yn y rhan hon o Wynedd, ac a barhaodd i fwynhau yr unrhyw hyd ei farwolaeth. O ran tuedd ei gredo a'i athrawiaeth cyhuddid John Jones o bregethu Arminiaeth a phethau "croes i athrawiaeth iachus." Addefir i'w weinidogaeth greu cyfnod newydd yn y dull o bregethu yn mysg gweinidogion y cyfundeb y perthynai iddo. Sylwai y Parch. M. Hughes, diweddar o'r Felinheli, mai "John Jones a fu y prif offeryn i greu y dull newydd yn mhlith y Methodistiaid yn Nghymru. Yr hen ddull oedd pregethu ar bynciau athrawiaethol. Teimlodd llawer, nid yn unig yn mysg y Methodistiaid, ond hefyd yn mysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, fod rhyw ddiffyg pwysig yn y dull hwnw, ac y dylasai y pechadur yntau wneyd rhywbeth er sicrhau ei gadwedigaeth." Blaenorid yn y drefn newydd o bregethu yn mysg y Bedyddwyr gan y Parch. J. P. Davies o Dredegar; yn mysg yr Annibynwyr gan Williams o'r Wern; ac yn mhlith y Methodistiaid gan Jones o Talysarn. Derbyniasant ill trioedd wrthwynebiadau cryfion ar y cyntaf. Bu llawer o'r hen flaenoriaid yn doctora uwch eu penau, ond hwynthwy a orfuant, a chydnabyddir yn lled gyffredin, erbyn hyn, mai hwynthwy oedd yn gywir. Ond er ei holl ddefnyddioldeb, ei barch, a'i boblogrwydd, efe a fu farw. Cyfodwyd cofgolofn ysblenydd uwch ei fedd trwy danysgrifiadau ei gyfeillion, ar yr hon y mae crynhodeb o ragoriaethau ei gymeriad. Cyfansoddodd Eben Fardd ddau englyn i'r golofn hon, y rhai a ddodwn ger bron yma:
Jones Talsarn wnaeth yn ddarnau—y cestyll
Castiog lochent ddrygau;
Cliriodd hwynt, er cael rhyddhau—plant pechod
Drwy waed yr amod, o'u diriaid rwymau.
Jones Talsarn—nid barn, nid bedd—a bylant
Belydr ei glaer fuchedd;
Ni ad Duw ei genad hedd-a'i fri tal
I ffawd anwadal, a phw! dinodedd.