Y PARCH. JOHN JONES, M. A.—Y nesaf o ran amser, ac nid y lleiaf o ran teilyngdod, ceir y Parch. John Jones, person Llanllyfni. Ganwyd ef yn y Lleddfa, gerllaw Machynlleth, yn swydd Feirionydd. Derbyniodd ei addysg elfenol yn Ysgol Ramadegol, Bangor. Symudodd drachefn i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle graddiwyd ef yn Athraw yn y Celfyddydau. Priododd âg Elizabeth, merch John Jones, ysw., Bryn Hir, a chwaer y diweddar Owen Jones Ellis Nanney, o'r Gwynfryn; ac y mae hi wedi ei oroesi, ac eto yn byw yn Mhenygroes. Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Eglwys Llanllyfni am yr ysbaid maith o 43 o flynyddoedd. Cyhoeddodd saith o bregethau yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, eithr ei hoff bwnc oedd Hynafiaethau, ac yn y gangen hon o lenyddiaeth Gymraeg gellir ei osod ar ben y rhestr o ddynion ei oes. Ysgrifenodd amryw babyrau yn dwyn cysylltiad â hynafiaethau y wlad hon i wahanol gyfnodolion; ac ymddangosodd erthyglau ysgolheigaidd o'i eiddo yn yr 'Arch. Cambrensis,' yn nghyda'r 'Cymro yr Amserau,' &c. Gadawodd ar ei ol swm mawr o MSS., y rhan fwyaf o ba rai a gyflwynwyd gan ei gymun-weinyddwyr i Gymdeithas y 'Camb. Arch. Association.' Gwasgarwyd llawer o'i lyfrau a'i ysgrifau yn yr arwerthiant fu arnynt; ac yr oedd efe ei hun yn niwedd ei oes mor ddiystyr o ffrwyth ei lafur boreuol, fel y sylwyd arno yn llosgi ei ysgrifau gwerthfawr fel difyrwch iddo ei hun a'i ŵyrion bychain. Bu farw y Parch. John Jones yn mis Chwefror, 1863, yn 77 mlwydd oed, ac y mae ei fedd yn mynwent Eglwys Sant Rhedyw, a drwg genym oedd ei weled heb unrhyw fath o golofn na beddadail, dim ond "careg arw a dwy lythyren dorodd rhyw anghelfydd—law" i ddynodi ei orphwysfa. Tra mae lluosogrwydd o greaduriaid dinod yn eu bywyd wedi eu hanrhydeddu yn eu marwolaeth â chof-golofnau heirdd, y mae yn resyn meddwl fod bedd yr hynafiaethydd hybarch yn cael ei esgeuluso.
D. AB HU FEDDYG. —David William Pughe, ysw., neu D. ab Hu Feddyg, M.R.C.S., oedd fab ieuangaf David Roberts Pughe, Brondirion, Clynnog. Heblaw ei fod yn feddyg clodfawr, yr oedd yn hynafiaethydd craff, ac ysgrifenydd gwir alluog. Ysgrifenodd amryw o gyfrolau yn cynnwys hanes Cestyll Caerynarfon, Conwy, Beaumaris, Harlech, yn nghyda llyfr ar 'Awstralia, neu ar wlad yr aur; ac hefyd ysgrifenodd luaws o erthyglau galluog i'r 'Arch. Camb., yn nghyda chyfnodolion ereill. Yr oedd efe yn gyfaill ffyddlon iawn i Eben Fardd, a'r bardd iddo yntau. Yr oedd hefyd yn feddyg ei deulu, a gwnaeth bob peth oedd yn ei allu er adferyd iechyd, ac achub bywydau anwyliaid y bardd; ond trechai y gelyn diweddaf bob ymdrechion o'i eiddo. Dengys y dyfyniad canlynol y fath feddyliau uchel oedd gan Mr. Thomas am dano, yr hwn a gawsai y fantais oreu i'w adnabod. Rhoddwn y geiriau yma fel eu hysgrifenwyd hwy:—-"The demise of the above gentlemen requires a prominent notice, inasmuch as he was an excellent Literary character, and an author of great aptitude, endowed with a noble, vigorous genius, and possessing talents of rare brilliancy. Being therefore addicted from boyhood to reading and study, he soon became through the accessory influence of habit and taste, a marked Literate, exhibiting a rather