Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

immoderate passion for literary enjoyments. Having stored his mind with an infinite variety of knowledge and general information, well digested and arranged in the memory, he seemed always very ready to impart it to others, either through the press, or by oral delivery in lec-turing and conversation." Wedi gwanwyn a haf gwych ac addawol, daeth pruddfeddyliau yn tarddu o afiachusrwydd i orlethu ei enaid athrylithgar, nes ei ddyeithrio bron yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas ac ymdrech am y pedair blynedd diweddaf o'i yrfa. Ar foreu Sadwrn yn mis Tachwedd, 1862, hunodd yn dawel i brofi gwirionedd llinellau a fynych goffeid ganddo yn anterth ei drallodion.

"Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd."

Yn foneddwr o alluoedd anghyffredin fel llenor a chelfyddydwr, ysbeiliwyd Cymru o un o'r rhai mwyaf gobeithiol o'i meibion, trwy ei flynyddoedd o gystudd a'i farwolaeth anamserol. Claddwyd ef yn mynwent Clynnog yn agos i fedd ei gyfaill, Eben Fardd; ac y mae gwyddfa hardd ar ei fedd, a'r ddwy linell a goffâwyd yn gerfiedig arni. Nid oedd ond 41 mlwydd oed.

EBEN FARDD.—Y mae enw Mr. Ebenezer Thomas, neu Eben Fardd, yn gysylltiedig â'r gymydogaeth hon er's llawer o flynyddoedd, ac mor gyhoeddus trwy bob rhan o Gymru, fel mai afreidiol i ni fanylu ar ei. hanes. Dechreuodd ei gysylltiad â'r Nant yma tua'r flwyddyn 1827, pan ddaeth i gadw ysgol ddyddiol i Gapel Beuno yn llanc gwladaidd ac yswil yr olwg arno. Wedi bod yn y lle hwnw am tuag 16eg o flynyddoedd symudwyd yr ysgol i gapel newydd y Methodistiaid gerllaw y pentref, lle bu yntau yn athraw ynddi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd rybydd o'i fwriad i ymadael rai gweithiau—unwaith penderfynodd symud i Borthmadog; ond y wlad a gyfododd ei llais i'w attal, a'r pryd hyny y darfu i gyfarfodydd misol Lleyn, ac Eifionydd, ac Arfon bennodi swm blynyddol o gyflog idde am aros yn Nghlynnog, er mwyn rhoddi cyfleusdra i ymgeiswyr am y weinidogaeth gael addysg ragbarotoawl cyn myned i Athrofa. Prif ddiffyg Eben fel ysgolfeistr oedd tynerwch ei ddysgyblaeth. Byddai weithiau yn ymgolli mor lwyr yn nghanol creadigaethau ysblenydd ei ddychymyg barddonol, nes anghofio pawb a phobpeth o'i amgylch; er hyny yr oedd ar bawb o'i blant ofn ei ddigio fel digio tad; a chof genym weled rhai ohonynt yn wylo yn hidl pan awgrymodd efe iddynt ei fwriad i'w gadael. Efe oedd tad y cyfarfodydd llenyddol; a chynnaliwyd y cyntaf ohonynt yn y wlad hon, yn nghapel y Methodistiaid yn Nghlynnog, lle yr oedd y bardd yn gweithredu fel beirniad a chyfarwyddwr. Ymledodd y meddylddrych yn fuan dros y wlad, ac y maent eto yn hynod o boblogaidd. Cynnelir ef yn flynyddol yn Nghlynnog bob dydd Llun y Sulgwyn hyd heddyw. O ran ffurf ei gorff yr oedd Eben yn dal a lluniaidd, talcen uchel a llydan; ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn gadael ei farf yn llaes a thrybrith. Gwisgai bob amser yn drefnus, ond yn wladaidd. Ymddangosai ar y cyntaf