yn annibynol ac oeraidd, ac nid oedd ei serch hyd yn nod at ei deulu, yn drysliog ag arwynebol, ond fel yr eigion yn ddwfn a llonydd. Yr oedd rhyw fath o yswildod yn nglyn wrtho mewn cyfarfodydd cyhoeddus; ond gartref yn ei gynefin traddodai ei sylwadau yn rhwydd a naturiol iawn. Yr oedd ei gyfeillgarwch yn werth cymeryd trafferth i'w feddiannu, oblegid meddiant parhaus fyddai, ac yn sicr o osod bri ar y sawl alwyddai. Cynwysa teulu y bardd unwaith, heblaw ei briod, bedwar o blant, sef tair merch ac un mab. Wedi eu gweled oll yn tyfu i fyny gwanwyn tyner einioes, gorfu arno edrych arnynt i gyd ond un, yn gwywo yn y darfodedigaeth. Yr oedd drylliad y rhwymau tyner â'i hunai, â'i briod, a'i blant yn creu y fath ing meddyliol hiraethus nad all neb o feddwl llai nag a feddai ef ei deimlo. Ei ddwy ferch hawddgar a glan, a'u mam, a'i fab, sef ei unig fab, y dysgedig a'r athrylithgar James Ebenezer Thomas, a gludwyd trwy y porth i fynwent Beuno, lle gorphwysent ar gyfer ei dy. Ei ferch hynaf, Mrs. Davies yr Hendre Bach yn unig a'i goroesoedd, ac y mae hithau er's blynyddoedd bellach wedi eu dilyn i'r un orweddle lonydd. Gadawyd y bardd yn mlynyddoedd olaf ei oes yn unig; ond yn awr y mae yr holl deulu, yn dad, mam, chwiorydd, a brawd, yn ddystaw a thawel wrth fur deheuol Eglwys Beuno Sant. Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o ddyfynu geiriau un o'i fywgraffwyr, y rhai a roddant ddesgrifiad cywir a tharawiadol o gyflwr bardd Clynnog Fawr yn nghanol unigrwydd blynyddoedd olaf ei oes. Yr oedd y pryd hwnw yn nyfroedd dyfnion trallod oherwydd colli ei anwyliaid, yn byw wrtho ei hun, a chadeiriau gweigion o'i ddeutu yn ail enyn ei alar bob edrychiad a roddai arnynt; ac i fagu y pruddglwyf nid oes odid haiach man yn Nghymru na Chlynnog Fawr, pentref bychan cysglyd, beddrodau saint hen a diweddar yn nghor Beuno gerllaw, a thudraw i hyny yr eigion cwynfanus yn ymgyro yn dragyfyth yn erbyn erchwynion ei wely; y Wyddfa benfoel gan henaint yn y pellder o'r tu cefn; ac ar y naill law wastadedd marwaidd yn ymestyn amryw filldiroedd, tra y gwelir ar y llaw arall fynyddau hirddaint yr Eifi cilwgus. Y mae y Llan gwledig, haf a gauaf, fel pe wedi ei offrymu i swyn gyfaredd yr hunllef; ac i ddyn o anianawd ddwys-fyfyriol Eben Fardd, a than ei ofidiau dygn, diau fod ei brudd-der yn ddwfn ac arteithiol yn y fath le. Y mae rhifedi a theilyngdod y rhan fwyaf o gyfansoddiadau Eben Fardd yn adnabyddus i bawb, fel nad rhaid eu crybwyll yma. Eisteddodd dair gwaith yn nghadair yr Eisteddfod, i dderbyn yr anrhydedd uwchaf allai ei genedl roddi iddo, a chydnebydd lluaws mawr o brif lenerion Cymru y dylasai gael gwneyd hyny iddo fwy o weithiau. Fel beirniad ni amheuodd neb erioed ei fedrusrwydd na'i gywirdeb, er fod ei duedd yn gogwyddo yn fwy at ganmol rhagoriaethau nac edliw beiau. Gellid ysgrifenu llawer hefyd am burdeb ei farddoniaeth. Digon yw dyweyd na chyfansoddodd Eben Fardd, hyd y gwyddys, linell erioed y bu achos iddo edifarhau na chywilyddio ohoni yn ei funudau olaf a difrifolaf; ac fel aelod eglwysig a blaenor, yr oedd mor gyson a rheolaidd, hunanymwadol ac efengylaidd ei ysbryd, ag y gall creadur anmherffaith bron fod. Yr oedd ei serch yn angherddol a dwfn at hen fynwent
Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/61
Gwedd