ac Eglwys a Chapel Beuno, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn:—" Yma," medd efe, gan gyfeirio at Eglwys y Bedd—"yma y bu fy meddwl mewn gweithgarwch bywiol gyda rhagolygiadau a gofalon bywyd, tra yr oedd pleth ar ol pleth yn cael eu gwau am danaf o gysylltiadau teuluaidd, y rhai y mae eu dadblethiad buan gan ddwylaw geirwon angau wedi gwaedu fy ysbryd, a'i adael yn dyner a dolurus! Rhwng hen furiau llwydion trwchus ac oedranus Capel Beuno y cyfansoddais y rhan fwyaf o awdl "Cystuddiau ac Amynedd Job," a llawer dernyn ag y mae genyf bleser i edrych drostynt weithiau eto. Ond y rheswm mwyaf dyddorol dros fy serch at hen Eglwys Clynnog Fawr yw, ei bod yn sefyll i fyny trwy oesoedd a chenedlaethau yn gofadail ddangosiadol o'r unig ysmotyn bychan cysegredig, yn yr ardal eang hon, lle bu ymdriniaeth athrawol defosiynol a didor a gair Duw, ac â materion Cristionogaeth er's deuddeg cant o flynyddoedd!" Ond er holl ragoriaethau llenyddol a moesol bardd mawr Clynnog, ei athrylith, a'i dduwioldeb, bu farw Chwef. 17, 1863, gan sibrwd y geiriau prydferth canlynol o'i eiddo ei hun:
"Y nefoedd fydd, yn berffaith ddydd,
O bob goleuni i'w ddysgwyl sydd."
Claddwyd ef wrth fur y gangell, lle mae cof-golofn o farmor gwyn, a gyfodwyd trwy gyfroddion gwirfoddol ei edmygwyr, yn addurno ei fedd. Yr oedd yn 61 mlwydd oed. Y mae llawer o ddarnau gorchestol o'i eiddo heb ymddangos erioed trwy y wasg, a gresyn o'r mwyaf ydyw, na chyhoeddid ei holl weithiau gyda'u gilydd. Nid oes un enw yn perarogli yn fwy hyfryd yn yr ardal hon nag enw cadeirfardd campdlysog Clynnog Fawr. Bydded heddwch i'w lwch.
Gyda'r benned hon dygir y dosbarth cyntaf o'n testyn i derfyniad. Bydd genym achlysur eto i gyflwyno i sylw y darllenydd amryw o gymeriadau neillduol, y rhai y bydd yn fwy manteisiol i ni grybwyll am danynt yn nosbarth y "Cofiannau," am fod y cwbl a wyddys o'r bron am danynt wedi ei gasglu oddiar lafar gwlad ac adgofion hen bobl. Gofidiwn na fuasai ein defnyddiau a'n gallu yn helaethach, i ysgrifenu yn fanylach, ar y rhan bwysicaf, a mwyaf dyddorol o lawer o'r testyn. Ymddengys i ni fod Nant Nantlle wedi cael ei hesgeuluso bron yn hollol gan bob hanesydd, a'i bod yn rhyw gilfach neillduedig, anghysbell, a thawel pan oedd ymrysonau ac ymladdfeydd yn cymeryd lle mewn ardaloedd cylchynol. Gellir casglu i'r grefydd Dderwyddol fod mewn cryn fri yma ryw adeg bell yn ol; ac y mae mewn amrywiol ucheloedd feini mawrion a elwir "meini arwydd," yn dangos fod yma ryw drefniadau rhyfelgar wedi cael eu cario yn mlaen rywbryd. Yr olion adeiladau a welir hyd yr ucheldiroedd a arweiniant i'r penderfyniad fod y lle yma wedi ei boblogi, i ryw fesur, mewn cyfnod boreuol. Gwelir yma ol y Brytaniaid, y Rhufeiniaid, y Gwyddelod, y Saeson, a'r Cymru presennol yn preswylio, a'i fod wedi teimlo i raddau oddiwrth y chwyldroadau fu ar ein gwlad er amser ymsefydliad cyntaf ein hynafiaid yn y rhan hon o Ynys Brydain.