Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y nant hon. Y mae amryw draddodiadau yn amcanu at egluro ystyr darddiadol yr enw hwnw hefyd; y mwyaf poblogaidd a derbyniol yw y canlynol:—Wrth odrau mynydd Drws y coed, ar y tu dwyreiniol iddo, y mae llyn helaeth a elwir Llyn y gadair, ac a elwir gan rai Llyn y pum' careg, am fod y nifer hono o feini, neu ddarnau o greigiau yn y golwg. Ar du dwyreiniol y llyn hwn y mae bryn bychan, ac o'r bryn yma darfu i helgwn rhyw foneddwr gyfoài rhyw fwystfil rhyfedd a dyeithr, a hynod o brydferth. Y bwystfil hwn, medd y traddodiad a orchuddid â chydynau o flew euraidd, y rhai a ymddysgleirient yn llachar yn mhelydrau yr haul, am hyny galwyd ef yn Aurwrychyn. Y cŵn a'i hymlidasant trwy Ddrws y coed i lawr hyd at Baladeulyn, lle y daliasant ef; ac fel yr oeddynt yn ei ddal, y bwystfil a roddes y fath lef dorcalonus ac egniol, nes oedd y creigiau ogylch yn diaspedain gan ei lef. Y llef hon a roddes enw i'r nant, a galwyd ef o hyny allan yn Nant-y-llef.

Y TYLWYTH TEG.—Y mae y bodau annaearol hyn yn ymlusgo i chwedloniaeth pob ardal bron o Wlad y Bryniau. Ni adroddwn y chwedl ganlynol yn unig am ei bod yn dal cysylltiad â Drws y coed. Dylid crybwyll fod uwchlaw Drws y coed ddwy fferm, yn dwyn yr enwau Drws'y coed Uchaf a'r Drws y coed Isaf. Oesau yn ol yr oedd yn Drws y coed Uchaf lanc ieuanc a phenderfynol yn trigiannu. Byddai y llanc hwn yn difyru ei hun trwy wylio campau a symudiadau y teulu dedwydd, sef y Tylwyth Teg, gan wrando ar eu dawns a'u cerddoriaeth ar hyd y twmpathau a'r bryniau cylchynol. Un noswaith cadwent noswaith lawen yn muarth, cartref y llanc, ac aeth yntau i edrych arnynt fel arferol, ac yn y fan efe a syrthiodd mewn cariad at un o'u rhianod, yr hon oedd yn nodedig o brydferth. Yr oedd ei phryd mor wyn a'r alabaster, ei llais fel yr eos, a chan esmwythed a'r awel mewn gardd flodau, ac yr oedd ei dawns mor ysgafn hyd y glaswellt a phelydrau y lloer ar Lyn y Dywarchen. Gan rym y serch at y wyryf brydferth efe a redodd i ganol y dorf, ac a'i cipiodd hi yn ei freichiau, ac a redodd gyda hi i'r ty. Y Tylwyth Teg, wrth ganfod y fath drais yn cael el arfer at un ohonynt a ddilynasant y llanc at y ty; ond yr oedd y drws wedi ei folltio, a'r fenyw deg wedi ei sicrhau mewn ystafell. Ymroddodd y llanc ar ol hyny i geisio ei pherswadio i ddyfod yn wraig iddo, yr hyn ni wnai hi; eithr gan weled na ollyngid mohoni ymaith, hi a addawodd ei wasVanaethu fel morwyn os medrai efe gael allan ei henw, ar hyn y cydsynDiodd y cariadfab. Ond yr oedd cael allan ei henw yn orchwyl anhawddach nag y tybiodd; a phan oedd ar fin rhoddi yr ymdrech i fyny mewn anobaith, gwelai ryw noswaith dorf o'i Thylwyth mewn mawnog yn agos i'r ffordd; ymlithrodd yntau yn ddystaw a lladradaid nes dyfod yn ddigon agos atynt i'w clywed yn ymddyddan, a deallodd un yn gwaeddi mewn gofid, "O Penelope! Penelope! fy chwaer! paham y diangaist gydag un o'r marwolion," "Penelope! Penelope!" Ebe yntau, "dyna ei henw! dyna ddigon," ac a ymgripiodd adref o'r lle. Wedi cyrhaedd y ty gwaeddai ar y ferch, "Penelope, fy anwylyd, tyr'd yma." Hithau a ddaeth yn mlaen gan waeddi, "O farwol! pwy a ddatguddiodd i ti fy fy enw?" a chan ddyrchafu ei dwylaw plethedig dywedai, Fy nghynged,