Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hystafell yn Talymignedd er ei galonogi, a chynal ei feddwl. Ar ol hyny hwy a briodwyd, ac a fuont byw yn ddedwydd mewn mwynhad o'r cariad a brynwyd mor ddrud!

CWM CERWIN.— Yn ystlys ddeheuol y Mynyddfawr y mae cwm serth a elwir Cwm Cerwin, lle mae traddodiad yn dywedyd yr arferid rhoddi troseddwyr i farwolaeth trwy eu cau i fyny mewn cerwinau neu farilau, trwy y rhai y byddai hoelion wedi eu curo i mewn fel picellau, ac yna eu gosod i dreiglo i waered y cwm arswydus hwn. Heb fod yn mhell o'r lle hwn yr oedd Penyrorsedd, lle cynhelid y llys, ac y cyhoeddid y ddedfryd. Dangosir hefyd lwybr gwyrddlas yn bresennol, yr hwn a ellir ei ddilyn yn eglur o'r lle y safai Penyrorsedd, i ben uwchaf y cwm, ar hyd yr hwn, meddir, y cludid y barilau. Mae yn deilwng ini grybwyll am le cyffelyb i hwn hefyd yn Mon, yn agos i Landdona, lle mae diphwys ofnadwy yn nghreigiau glan y mor, a elwir Nant Dienydd. Mae yn agos i'r fan hono hefyd le a elwir Penyrorsedd, a gorsaf filwraidd Rufeinig a elwir Dinas Sylwy; ac y mae y traddodiad yno yn gyffelyb am y dull y rhoddid y troseddwyr i farwolaeth.

Meddyliai rhai fod y troseddiadau hyn yn dal perthynas a'r erledigaeth a ddyoddefodd y Cristionogion yn Brydain o dan yr Ymerawdwyr Galerius a Dioclesian, ac a elwir y ddegfed erledigaeth dan Rufain Baganaidd. Cyrhaeddodd gorchymynion caeth i'r wlad hon, y pryd hyny, wedi eu hargraffu ar lafnau o efydd, yn gorchymyn rhoddi pob Cristion i farwolaeth. "Oddiwrth y crybwyllion hyn," medd un ysgrifenydd cyfarwydd, "y mae yn lled hawdd ini gasglu bod erledigaeth hyd angau mewn amryw ffyrdd creulawn wedi bod ar Gristionogion yr ynys hon yn foreu: canys nid oedd y dulliau o farwolaethu a grybwyllir yn y traddodiadau uchod mewn arferiad, hyd y deallem i, yn yr erledigaeth pabaidd, ond yr oeddynt yn yr erledigaethau paganaidd. Heblaw hyny y mae lle a elwir Penyrorsedd yn agos i'r ddau le a gorsafau Rhufeinig hefyd, ac yn agos i un man y mae mynwent (Monwent Twrog) lle y cleddid cyrph maluriedig y merthyron, efallai, ond yn y fan arall nid oedd angen claddfa gan fod y mor yn eu cymeryd ymaith."— (Hanes y Cymry).

Dichon y byddai cystal ini yma ychwanegu y traddodiad a geir yn y gymydogaeth am y gladdfa adnabyddus ar ben y Cilgwyn, a elwir Mynwent Twrog. Ai yma y claddwyd Twrog Sant, nis gwyddom: y mae eglwys y plwyf wedi ei chysegru i'w goffadwriaeth. Cafwyd llawer o ludw llosgedig yn y lle yr oedd y fynwent, a'r traddodiad a glywsom am y fan yma sydd fel y canlyn;—Yn y cyfnod pell hwnw pan oedd Derwyddiaeth yn grefydd sefydledig y parthau hyn, yr haul, meddir, oedd gwrthddrych eu haddoliad; a phan na byddai yn ymddangos dros hir ddyddiau cesglid ei fod wedi cael ei ddigio, a'r canlyniad fyddai bwrw coelbren, a'r truan ar yr hwn y syrthiau y coelbren a aberthid er dyhuddo llid yr haul. Plethid delw o wiail derw neu fedw briglas, a gosodid y collfarnedig o fewn y ddelw blethedig, yna cynheuid tan o'i hamgylch, a llosgid yr aberth ynddi yn ludw, a'r cyrph llosgedig hyn a gleddid yn Monwent Twrog. Ychwanega y traddodiad yr arferid llaby-