Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syrthiodd y gwaed i'r llawr tarddodd ffynon loyw, a'r ffynon hone a gafodd ei henw oddiwrth y wraig ieuanc, ac a alwyd Ffynon Digwg." Ac felly y terfyna y chwedl.

LLWYN-Y-NE.— Y mae llethr neu fron hyfryd uwchlaw pentref Clynnog o'r enw Llwyn-y-Ne. Yr oedd, er ys blynyddoedd yn ol, yn llawn o brysglwyni a byrgyll, a rhai irwydd talfrig, o bo rai nid oes yn awr nemawr yn aros. A thrwy ran o'r llwyn hwn y mae aber fechan yn rhaiadru; ac y mae traddodiad yn dweyd fod rhyw aderyn swynol a dengar yn canu yn barhaus yn y llwyn hwnw pan oeddid yn adeiladu yr eglwys: ac oherwydd pereidd-dra hudol ei beroriaeth ni cheid gan yr adeiladwyr wneyd dim ond gwrando arno, yr hyn a barai annybendod poenus yn nygiad y gwaith yn mlaen; a hyn a barodd i Beuno weddio am i'r Arglwydd symud ymaith yr aderyn, a'i gais a gyflawnwyd, ac ni chlywyd ei nodau swynol mwy!

CILMIN DROED-DDU.—Rhaid ini gyfeirio unwaith yn rhagor at yr hen bendefig hwn. Yn y crybwyllion a wnaethom am dano, hyd yn hyn, darfu ini yn fwriadol ysgoi y traddodiadau a geir yn yr ardal am darddiad yr enw Troed-ddu, ond ymddengys fod rhyw briodoledd iddo, oblegid yn arfbais y teulu y mae "Llun coes wedi ei lliwio yn ddu," neu "A man's leg couped sable." Un traddodiad a ddywed fod rhyw lyfr cyfrin, yr hwn a gynnwysa wybodaeth ryfedd ac anhysbys yn meddiant rhyw ddemon oedd yn trigfanu tua Thre y Ceiri, ar gopa yr Eifl. A daeth gwr cyfarwydd (magician) at Cilmin i ofyn ei gynnorthwy i ddwyn y llyfr oddiar y demon, â'r hyn y cydsyniodd yntau, ac ymaith a hwy tua chymydogaeth yr Eifl, a chawsant hyd i'r demon a'r llyfr o dan ei aden Ond Cilmin, gan faint oedd hyd ei gleddyf, ac yn neillduol oherwydd fod llun croes ar ei garn, a darawodd yr ellyll i lawr, a thra bu yn cymeryd ei godwm dygasant y llyfr a diangasant ymaith. Y demon wedi ymadferyd a gasglodd yn nghyd ei weision i ymlid ar ol Cilmin hyd at afon Llifon, a phan oedd Cilmin yn croesi y ffrwd hono llithrodd ei goes i'r dwfr, ac erbyn iddo ei thynu allan yr oedd yn gwbl ddu ac yn arteithiol boenus, y cwbl wedi ei ddwyn arno trwy ddylanwad dieflig y demon! Y traddodiad arall sydd debyg i hyn:—Tyddynwr tlawd ydoedd Cilmin ar y cyntaf yn nyffryn y Llifon. Un noswaith breuddwydiodd ei fod yn gweled gwr yn dyfod ato ac yn dwedyd wrtho os ai efe i Lundain y cai afael ar gyfoeth mawr. Ni feddyliodd y tyddynwr ddim o'r breuddwyd hyd nes yr adnewyddwyd ef amryw o weithiau, wedi hyny efe a benderfynodd fyned i Lundain. Wedi cyrhaedd y brif ddinas bu am rai dyddiau yn cerdded o amgylch heb unrhyw neges. Un diwrnod tynwyd ei sylw at ddyn dyeithr yn cerdded ol a blaen yn fyfyrgar ar bont Llundain, ac aeth yn ymddiddan rhyngddynt, pryd y gofynodd y gwr dyeithr i Cilmin o ba le y daethai; atebodd yntau mai o sir Gaerynarfon. Yna y gwr dyeithr a wenodd, ac a ddywedodd ei fod yn breuddwydio yn barhaus ei fod yn cael cyfoeth dirfawr yn y Seler Ddu yn Arfon, a gofynai i Cilmin a wyddai efe pa le yr oedd hi, yntau a ddywedodd nas gwyddai. Eithr Cilmin a brysurodd adref ac a aeth i mewn i'r Seler Ddu, yr hon oedd yn agos i'w gartref yn nyffryn y Llifon, ac yno cafodd afael ar y cyfoeth a