Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Lloegr hefyd, pryd yr honai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid lluaws mawr a gredent hefyd i'r cabledd a'r ynfydrwydd hwnw!

ELIN DAFYDD Y GELLI.—Er ys tua 250 o flynyddoedd yn ol, yr oedd yn byw yn y Gelliffryda gwpl ysmala, nodedig o gyfoethog a chybyddlyd. Enw y gŵr oedd Dafydd Gruffydd, ac enw'r wraig oedd Elin Dafydd. Yr oeddynt yn daid a nain i Angharad James, y soniwyd am dani mewn pennod flaenorol. Nid oes genym ddim i'w ddyweyd am yr hen ŵr, amgen na'i fod yn lled gybyddlyd, ac wedi llwyddo i gasglu cyfoeth a ystyrid yn swm mawr yn y dyddiau hyny. Dywedir ei fod, pan yn glaf yn niwedd ei oes, wedi anfon am gyfreithiwr i wneyd ei ewyllys. Dechreuodd y gŵr claf enwi rhyw symiau anferth i hwn a'r llall, fel y penderfynodd y cyfreithiwr mai dyrysu yr oedd. "Mi a alwaf yma yfory," ebe'r cyfreithiwr, "dichon y byddwch yn well." "Y d——- mawr," ebe'r claf, "ai meddwl yr ydych fy mod yn wallgof?" Ac efe a archodd i ryw un agor y drawer oedd yn yr ystafell, lle yr oedd y cyfoeth mawr y cyfeiriai ato yn gorwedd. Wedi ei foddloni fel hyn aeth y cyfreithiwr yn mlaen â'i ddyledswydd. Ond yr oedd Elin Dafydd yn rhagori ar yr hen ŵr mewn cybydd-dra, fel y prawf yr hanes can-lynol:—Un tro danfonodd boneddwr oedd yn perchen tir yn y Nant ei was yma ar neges, ac a roddodd yn ei law haner coron, gan orchymyn iddo ei roddi i'r tylotaf a welai yn Nant Nantlle. Wedi edrych yn ddyfal am wrthddrych priodol i dderbyn yr elusen yma, o'r diwedd gwelai y gwas hen wraig yn hel brigwydd ar y tân. Yr oedd ei gwisg garpiog drosti, ei hosanau yn gandryll, a'r gwas a roddodd iddi yr haner coron, yr hon erbyn edrych, nid oedd yn neb amgen nag Elin Dafydd y Gelli. Pan y byddai yn gwlawio, yn enwedig ar ol sychder, byddai yr hen wraig yn arferol o ymdreiglo o dan fargod y ty, a'r dyferynau breision yn disgyn arni, a hithau yn llefain, "llaeth a menyn i mi." Ar y Suliau gellid ei gweled yn myned i fyny gyda'i rhaw a'i noe rhyngddi a Llyn a Ffynonau, i droi y dwfr o'r ddyfrffos, ac i ddal y pysgod gyda'r noe. Dygwyd aml i lonaid noe i lawr i'r Gelli ar y Sabboth yn y modd hwn. Dywedir mai i Elin Dafydd y daeth tê gyntaf erioed yn y gymydogaeth hon. Yr oedd i'r hen wraig ddwy nîth yn byw yn y Werddon, y rhai a ddaethant i ymweled â hi i'r Gelli, a chyda hwy dygasant bwys o dê yn anrheg i'w mhobryb. Pan ddaeth amser gwneyd y tê, yr hen wraig, gan na wyddai pa fodd i'w goginio yn well, a'i rhoddes i gyd mewn crochan i'w ferwi, ac wedi tywallt ymaith y dwfr a gyfododd y dail ar y treiswriau coed i'w fwyta! yr hyn a greodd gryn hwyl i'r boneddigesau, a cholled anaele ar y pwys tê. Ond gwele'n fod Elin Dafydd yn myned a mwy na'i rhan o'n gofod. Yr oedd i'r hen gwpl ddau o feibion, un o ba rai a briododd ferch Tan y castell, Dolyddelen, ac o'r briodas hon y deilliodd Angharad James, y wraig athrylithgar y cyfeiriwyd ati.

SION CAERONWY.—Uwchlaw y Gelliffryda y mae Caeronwy, lle yr oedd hen brydydd rhagorol yn byw tua dechreu y ganrif bresennol. Yr