Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd John Jones, neu Sion Caeronwy, yn berchen awen rwydd a pharod; ond nid oedd ond dyn pur anllythyrenog; a phan y byddai wedi cyfansoddi rhyw ddernyn a ystyriai o werth, byddai yn myned dros y mynydd i'r Waenfawr, at Dafydd Ddu, i gael ei hysgrifenu. Ystyriai Dafydd Ddu ef fel yn tra rhagori arno ef am fywiogrwydd awenyddol, a'i allu i gyfansoddi yn ddidrafferth; ond o ddiffyg addysg briodol, ni chyrhaeddodd y drefn a'r coethder sydd yn nodweddu barddoniaeth 'Corph y Gainc." Y mae llawer o gerddi Duchan ar gof y bobl hyny sydd yn awr yn fyw; gallesid casglu llyfryn bychan bron ohonynt. Y maent yn hyned am swn cydseiniaid yn clecian," a buasai yn dda genym roddi un gerdd duchan a gyfansoddodd pan osodwyd treth ar Caeronwy; ond cymerai ormod, efallai, o le. Ar yr achlysur hwnw rhoes yr hen fardd Caeronwy i fyny, ac a adeiladodd dy ar y Common, a elwir yn awr Castell Caeronwy, lle bu y prydydd yn byw weddill ei ddyddiau.

SIAN FWYN.—Tua'r un adeg a Chaeronwy yr oedd Jane Roberts, neu fel yr adnabyddid hi gan y cyffredin Sian Fwyn, yn blodeuo. Yr oedd yn byw ar fynydd y Cilgwyn, yn y lle a elwir Samaria, ac yr oedd yn meddiannu tuedd gref, a llawer o allu prydyddol. Cyfansoddodd doraeth o emynau, amryw o ba rai a welir yn arffraffedig yn nghasgliad câr iddi, sef y Parch R. Jones. Darlunir hi fel hen wraig grefyddol iawn, yn llawn o hwyl moliannu bob amser; ac er ei bod yn dylawd, ac yn ymddibynu i gryn raddau ar elusenau at ddiwedd ei hoes, eto yr oedd yn dra chymeradwy gan ei chymydogion oll, a gair da iddi gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd hi yn mynwent y Bedyddwyr, yn Llanllyfni, gyda pha rai yr oedd hefyd yn aelod crefyddol. Ei diwedd oedd tangnefedd. Cyhoeddwyd cyfrol fechan o'i barddoniaeth, yn cynnwys caniadau moesol ac emynau.

WILLIAM OWEN. — Yn agos i'r man lle saif Hyfrydle, capel y Methodistiaid, yr oedd craig serth a neillduedig, a elwid Pulpud William Owen. Paham y galwyd y lle ar yr enw hwn a eglurir gan yr hanes canlynol: Tua phedwar ugain mlynedd yn ol yr oedd yn byw mewn bwthyn bychan gerllaw Talysarn hen lencyn neillduol o'r enw William Owen. Pan yn ieuanc cafodd ei frathu gan sarff yn agos i ffynon yr Hafodlas, yr hyn a'i hanalluogodd i gerdded ond wrth ei ffon weddill ei oes. Ymddengys ei fod yn Eglwyswr brwdfrydig; ac wedi iddo fethu dilyn y gwasanaeth yn Eglwys Llanllyfni, byddai yn dringo i'r graig y cyfeiriwyd ati i olwg yr eglwys, gyda'i Feibl a'i Lyfr Gweddi Cyffredin, ac yno darllenai yn fanwl y gweddiau a'r llithoedd a ddarllenid ar yr un adeg yn Llanllyfni. Dilynodd yr arferiad yma yn ddifeth am lawer o flynyddoedd gyda'r fath gysondeb nes y deuwyd i adnabod y graig fel Pulpud William Owen hyd heddyw. Yr oedd ganddo hefyd le yn agosach i'w dy, lle yr arferai gyda'r un cysondeb fyned dros y gwasanaeth hwyrol a'r gosber! Yr oedd William Owen yn byw yn unig mewn ty bychan o'r enw Ty'n y Coed, muriau yr hwn a welid hyd yn ddiweddar, a byddai ymarfer sicrhau y drws trwy osod pilar mawr o lechfaen i bwyso yn erbyn y ddor o'r tu mewn. Un diwrnod sylwai rhai oedd yn gweithio ar ei gyfer nad oedd